成人快手

'Awel Hwyrnos' yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

Aled Wyn Clark

04 Mehefin 2012

Un o'r pethau a synnodd Aled Wyn Clark fwyaf wrth wrando ar feirniadaeth Gareth Glyn o'i waith buddugol brynhawn Llun oedd y disgrifiad o'r darn fel un avant garde.

"Fel arfer, faswn i'n disgrifio fy hun fel cyfansoddwr eitha' ceidwadol," meddai'r g诺r ifanc tu 么l i'r ffug-enw Awel Hwyrnos a enillodd Fedal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd Eryri eleni.

"Dwi'n hoffi cyfansoddi pethau gwerinol eu naws ac yn gwrando lot ar Vaughan Williams - dwi eisiau 'sgwennu cerddoriaeth i bobl ei glywed," meddai gan ychwanegu fod disgrifiad y beirniad wedi rhoi sioc iddo!

Mae'n amlwg fod yr elfen o ddweud stori yn ei gerddoriaeth yn bwysig i Aled, 21 oed, sydd o Brestatyn yn wreiddiol ond yn aros canlyniadau ei radd ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

Y stori sydd ganddo i'w dweud yn y darn buddugol ydy stori aderyn bach yn teithio trwy'r niwl ac yn mynd ar goll, a dewisodd y delyn a'r clarinet fel cyfrwng am fod technegau'r ddau offeryn yn adddas i gyfleu ei stori.

Cafodd ei ysbrydoli wrth fynd am dro ar hyd yr afon Taf yng Nghaerdydd. Wedi iddo feddwl am y stori, aeth ati i'w throsglwyddo i elfennau cerddorol, gan eu hadeiladu fesul "blociau bach".

Dylanwad arall arno yw cerddoriaeth John Williams ac mae'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth ffilm a chlasurol ac yn gobeithio mynd ymlaen i gyfansoddi ar gyfer ffilm a theledu yn y dyfodol.

"Dwi'n credu mod i'n deall y berthynas rhwng cerddoriaeth a beth sy'n gweddu ar y sgrin," meddai. Mae eisoes yn cyfrannu at brosiectau ffilm amatur.

Tri chynnig i Gymro meddai'r gair a dyma'r trydydd tro i Aled gystadlu yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi - daeth yn ail yn 2010 a 2011. Mae wedi ennill dwy wobr gyntaf hefyd yn y gystadleuaeth Gyfansoddi i Flwyddyn 10 i 13 yn 2006 a 2008.

Mae 'na wahaniaeth, meddai, yn ei waith ers ei gynigion blaenorol: "Wedi tair blynedd yn y coleg, roeddwn i'n disgwyl i fy llais newid wrth imi ddysgu mwy."

Ac er fod Aled am gymryd blwyddyn allan wedi cwblhau ei radd cyn mynd i astudio cwrs uwchradd, nid yw am orffwys ar ei rwyfau: "Mae'n siwr y gwna i chwilio am swydd," meddai cyn ychwanegu "ac astudio llyfrau harmoni a cherddoriaeth, a cheisio cael gwared 芒 gwallau technegol ..."


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.