Llywydd y dydd ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod yw'r gantores a chyn fardd plant Cymru, Caryl Parry Jones.
Magwyd Caryl yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint.
Derbyniodd ei haddysg gynradd yn Ysgolion Mornant, Ffynnongroyw a Dewi Sant, Y Rhyl cyn symud ymlaen i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd ac yna i Goleg y Brifysgol, Bangor lle y graddiodd yn y Gymraeg ym 1979.
Yn yr un flwyddyn symudodd i Gaerdydd yn gyflwynydd rhaglenni plant gyda'r 成人快手. Yn yr Wythdegau gwaneth enw iddi ei hun fel cantores yn bennaf a bu'n gyfrifol am sawl cyfres gerdd a chomedi ar S4C.
Mae hi'n gyfansoddwraig doreithiog ac yn ogystal ag ysgrifennu caneuon iddi hi ei hun a'r bandiau y bu'n aelod ohonyn nhw (Sidan ,Injaroc, Bando, Caryl a'r Band) mae hi wedi cyfansoddi'n gyson i unawdwyr, corau, plant a grwpiau yn ogystal 芒 cherddoriaeth i deledu ac achlysuron arbennig.
Cyhoeddodd sawl albwm gan gynnwys, yn 2006, gasgliad o'i goreuon ar CD gan Sain a llyfr o'r caneuon hynny gan Wasg Carreg Gwalch.
Mae hi hefyd wrth ei bodd yn gweithio gyda chantorion ifanc ac yn cael pleser arbennig yn darganfod talentau newydd a'u rhoi ar ben ffordd.
Mae hi bellach yn byw yn Y Bontfaen ym Mro Morgannwg gyda'i g诺r, Myfyr Isaac, a'u pedwar plentyn, Elan, Miriam, Moc a Greta.
Straeon heddiw
- 'Ysgoloriaeth dros baned' - Bryn Terfel
- Agor gyda phasiant meithrin
- Araith Aled Edwards
- Caryl - llywydd dydd Llun
- Cyngerdd Deng-Mlwyddiant Ysgoloriaeth Bryn Terfel
- Dau am bris un ddydd Sadwrn
- Dau lywydd a j么cs
- Mosgito yn y Steddfod
- Prif gyfansoddwr - y beirniad eisiau gwrando a gwrando
- Seremoni yn tynnu gwahanol gredoau at ei gilydd
- Yr Urdd: R锚l sioe Mickey Mouse - am ddiwrnod!