|
|
Taipei - hanes clwb y Cymry
gan Gareth Gwyn Wedi byw yn Llundain am bron i saith mlynedd, yr oedd amser symud ymlaen gyda gyrfa a sialens newydd.
|
Roedd yn anodd gadael ffrindiau clos, fy nheulu yng Ngogledd Cymru a dweud ffarwel wrth gyd gantorion a chantoresau Corâl Cymru Llundain.
Dyma gyrraedd y dwyrain pell a glanio yn Taipei, dechrau bywyd newydd a gyrfa fel Cynghorwr Rheolaeth Prosiectau ar brosiect cyflymder uchel Rheilffordd Taiwan - y trên bwled cyntaf i gael ei adeiladu y tu allan i Siapan.
Yr oedd sôn bod yna Glwb Cymraeg yn Taiwan rai blynyddoedd yn ôl ond erbyn hyn roedd y criw wedi gwasgaru a rhai wedi gadel y wlad.
O gwmpas y Nadolig fe wnes i gwrdd â phennaeth y WDA yn yr ardal a chyn bo hir yr oeddynt yn trafod hysbysu Cymru a chreu Clwb Cymraeg - clwb i'r Cymru a rhai sydd â diddordeb a phethau Cymreig ac ati.
Yr oedd Mawrth y cyntaf yn nesau'n gyflym, a dyna fi'n cael y syniad o gysylltu a'n ffrind da, Lee Ting, Cyfarwyddwraig Weithredol y Siambr Fasnach Brydeinig yn Nhaipei am rai syniadau ynglyn â digwyddiadau Gwyl Dewi.
Ar ôl digon o drafod, y ffordd ymlaen oedd cynnal Gwyl Dewi ym mar 'Shannons', yng nghanol tref Taipei.
A noson dda iawn oedd hi gyda help gan y WDA a'r Siambr Fasnach Brydeinig - bwyd Cymreig o gig oen, bara brith ac yna, Bryn Terfel a Tom Jones yn cannu yn y cefndir i dyrfa dda. Anfonwch hanes eich cymdeithasau Cymraeg chi at 成人快手 Cymru'r Byd
|
|