Yn ystod ei ymweliad â Taiwan cyfarfu Hywel Gwynfryn â dau fachgen o Gymru, Gareth Gwyn Jones ac Andy Ings, sy'n byw yno.
Yn wreiddiol o Frynsiencyn a Bangor, mae Gareth yn gweithio i gwmni sy'n datblygu trên bwled newydd ar gyfer Taiwan.
Dyma'r trenau cyflymaf yn y byd sy'n medru teithio 200 milltir mewn 90 munud.
Yn Taipei y cyfarfu Hywel ag ef lle mae'n byw, yn adeilad 101, adeilad ucha'r byd ac wedi ei enwi ar ôl y nifer o loriau sydd ynddo.
Bywyd braf iawn Mae Taipei yn ddinas o saith miliwn o bobl, ac yma y mae Gareth a'i wraig o Ganada yn byw yn dilyn eu priodas yn Eglwys Llanddeiniolen.
Mae'n Gareth yn cyfaddef bod ganddo "fywyd braf, llawn" yn Taipei lle mae gweithwyr y ddinas yn gweithio yn galed ac yn llafurio am oriau hir, ond gerllaw mae cefn gwlad hyfryd, mynyddoedd a thraethau.
Mae digon o gyfleon i gael hoe a chymryd amser i feddwl a myfyrio, yn y temlau y tu allan Taipei neu rwyfo ar yr afon, dau beth a brofodd Hywel yn ystod ei ymweliad.
Dysgu Saesneg Profodd bethau ychydig yn fwy mentrus hefyd wrth i Snake Alley gynnig danteithion diarth a difyr... gan gynnwys gwenwyn neidr a chig neidr.
Mae Andy Ings yn byw yn Taiwan ers pymtheng mlynedd ond yn wreiddiol o Gaerdydd lle bu'n ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Glantaf.
Ac yntau'n briod â merch o Daiwan, mae wedi hen setlo yno, ac mae'r ddau'n rhedeg cwmni dysgu Saesneg.
Ef aeth â Hywel i far 'yr amlen goch' sy'n boblogaidd gyda'r bobl leol.
Ar Dy feic, Taiwan.
Nos Lun, Mehefin 12, 2006. 成人快手 Cymru ar S4C. 9.00pm
|