成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Aelodau'r pwyllgor gyda'r crys rygbi wedi'i fframio Trefnu ymweliad i blant canser
Medi 2004
Mae criw o Gymry yn Seland Newydd yng nghanol ymgyrch hel arian uchelgeisiol i drefnu i blentyn o Gymru sy'n dioddef o ganser ymweld â'r wlad.


Hwn fydd yr ail dro i ymweliad o'r fath gael ei drefnu gan Gymdeithas Gymraeg Aukland.

Bu'r un cyntaf yn hynod o lwyddiannus gyda'r Gymdeithas nid yn unig wedi codi digon o arian i gludo dau blentyn o Gymru yno ond hefyd gwmni iddyn nhw.

Taith y Llewod
Bwriedir i'r ymweliad nesaf fod yr un adeg ag ymweliad tîm rygbi'r Llewod â Seland Newydd yn ystod Mehefin a Gorffennaf nesaf.

"Bydd tocynnau i ymweld ag un o'r gemau prawf," meddai Jane Watt, ysgrifennydd pwyllgor Adenydd o Gymru - Wings from Wales 2 sydd newydd ymweld â Chymru i drefnu pethau yr ochr yma.

"Bydd y trip yn cynnwys ymweliadau â phob math o leoedd o ddiddordeb yn Seland Newydd," ychwanegodd.

Bwriad y Gymdeithas ydi casglu digon o arian i dalu am yr holl gostau teithio gan gynnwys toriadau yn y daith awyr a theithio o fewn Seland Newydd ar ôl cyrraedd.

"Pan drefno ni hyn o'r blaen, yn 1990, bu'r ymateb gystal - nid yn unig o du'r gymuned Gymraeg ond y gymuned yn gyffredinol - yr oeddem ni'n gallu fforddio i dalu am ymweliad gan ddau blentyn a'u teuluoedd," meddai.

"Rydym wrth ein bodd yn deall fod y ddau blentyn hynny mewn cyfnod o adferiad ar hyn o bryd ac mewn iechyd," ychwanegodd.

Gwledydd eraill
Yn ogystal â chynnal ei gweithgareddau codi arian ei hun megis noson fis Awst i gydfynd a dathliadau chwe chanmlwyddiant Owain Glyndŵr mae'r Gymdeithas yn casglu arian gan fusnesau hefyd ac yn gwahodd cyfraniadau o Gymru ei hun.

Hefyd, derbyniodd cymdeithasau yn y gwledydd lle bydd y daith i Seland Newydd yn cael ei thorri wahoddiad i gyfrannu.

Y pwyllgor - a'r crysYn ystod ei hymweliad diweddar â Chymru cyfarfu Jane â chymdeithas ganser LATCH yn Ysbyty Llandochau sydd â'r cyfrifoldeb o ddewis pwy fydd yn teithio.

"Dywedodd gweithwraig gymdeithasol yno wrthyf i'r ymweliad cyntaf fod yn un llwyddiannus dros ben ac i'r plant fod ar eu mantais wedyn," meddai Jane.

Gwerthu crys
Prif weithgarwch codi arian y Gymdeithas ar hyn o bryd yw gwerthu crys rygbi Cymru a wisgwyd gan Brett Simpkinson mewn gêm ryngwladol yn erbyn Siapan fis Hydref, 1999.

Bydd cynigion am y crys yn cael eu derbyn tan fis Tachwedd 18, 2004, ar johnwatt@ihug.co.nz.

Y cynnig uchaf ar hyn o bryd ydi mil o ddoleri Seland Newydd.

Cyfrif banc yr apêl ydi: Wings from Wales 2, PO Box 11-455, Ellerslie, Aukland, Seland Newydd.






awstralasia

Seland Newydd
Trefnu ymweliad i blant canser

Caffi Cymreig yn Seland Newydd

Llais y Maori

Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Golwg ar ffermydd Seland Newydd

Ymweliad Hywel

Diwylliant mewn peryg

Tywydd gwell wedi trochfa




About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy