成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Golwg ar ffermydd Seland Newydd
Carys Bowen yn sgrifennu am ymweliad gwerth chweil â Seland Newydd.


Roedd Mehefin 21, 2006, yn ddiwrnod cyffrous i 40 o fyfyrwyr, cyn fyfyrwyr ac aelodau o staff Coleg Amaethyddol y Gelli Aur, wrth iddynt gychwyn ar daith i Seland Newydd.

Yn eu plith yr oedd Arwyn Bowen, Iestyn Davies a Hywel James sy'n byw ar ffermydd cyfagos yn ardal Tre-lech.

Mae Arwyn a Iestyn yn astudio cwrs HNC/D tra bo Hywel yn astudio cwrs ND, cyrsiau sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth.

Cysylltiad Cymreig
Roedd y tri yn hynod o ffodus i gael mynd ar yr ymweliad tair wythnos yn teithio o Auckland ar Ynys y Gogledd i Queenstown ar Ynys y De.

Ymwelwyd â nifer o wahanol fathau o ffermydd gan gynnwys rhai defaid, llaeth a gwartheg tew neu bîff.

Roedd ymweld â fferm Pentwyn lle codir gwartheg bîff a defaid yn hynod o ddiddorol yn ôl y bechgyn oherwydd ei chysylltiadau Cymreig cryf.

Y perchnogion yw Mr a Mrs Collier a'u mab, Ross.

Bu Mrs Collier mewn cysylltiad â'r Gelli Aur y Pasg eleni pan oedd ar ymweliad â Chymru ac yn beirniadu mewn Sioe Geffylau yn Llanelwedd.

Y garfan gyfan cyn mynd ar y <i>Shootover Jet.</i>Roedd yr ymweliadau â'r gwahanol ffermydd yn Seland Newydd yn bwysig yn ogystal â diddorol i'r ffermwyr ifanc gan ei fod yn gyfle i weld sut y mae ffermwyr Seland Newydd yn ffermio ffermydd mawrion gyda stoc enfawr.

Gwelwyd sut y maent yn ymdopi ac ennill arian teg heb swbsidis.

Dywedodd Arwyn, Hywel a Iestyn i'r ymweliad fod yn gymorth mawr iddynt hwy ar gyfer ffermio yn y dyfodol.

Perfformio'r Haka
Nid ffermio yn unig aeth a'u bryd gyda chyfle i ymuno a sawl gweithgarwch bythgofiadwy arall gan gynnwys ymweliad ag ysgol draddodiadol y Maori lle gwelwyd perfformio cân a dawns yr Hakka. Hefyd, bu'r garfan yn sgïo ar fynyddoedd y Remarkables a'u golygfeydd gwefreiddiol.

Ond yn ôl y bechgyn y cyffro mwyaf oedd Shootover Jet - cwch oedd yn teithio i lawr afon ar gyflymdra uchel gan droi 180 gradd.

Cyrhaeddodd y bechgyn adref ar Orffennaf 13 yn fwrlwm o atgofion am gwych.

  • Cyhoeddir yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 成人快手 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch






  • awstralasia

    Seland Newydd
    Trefnu ymweliad i blant canser

    Caffi Cymreig yn Seland Newydd

    Llais y Maori

    Y cyntaf i ddathlu Gwyl Dewi

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Golwg ar ffermydd Seland Newydd

    Ymweliad Hywel

    Diwylliant mewn peryg

    Tywydd gwell wedi trochfa




    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy