成人快手

Gwrthryfel Owain Glynd诺r

Cerflun o Owain Glynd诺r yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

gan Catrin Stevens

Ar Fedi 16, 1400 cafodd Owain ap Gruffudd Fychan, neu Owain Glynd诺r, ei gyhoeddi yn 'Dywysog Cymru' yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd. Yna, ymosododd ei fyddin ar fwrdeistrefi yng ngogledd Cymru, gan gynnau gwrthryfel pwysicaf yr Oesoedd Canol hwyr - gwrthryfel poblogaidd a barodd am dros ddeng mlynedd.

Pam Owain Glynd诺r?

Olion pridd llys Sycharth
Safle llys Owain Glynd诺r yn Sycharth

Roedd ganddo'r cymwysterau i arwain gwrthryfel y Cymry:

  • roedd yn hanu o deuluoedd Brenhinol Powys a Deheubarth;
  • fe oedd uchelwr Cymreig cyfoethocaf ei gyfnod, a chanddo ddau lys hardd - yng Nglyndyfrdwy a Sycharth;
  • roedd yn filwr profiadol;
  • efallai iddo astudio'r gyfraith yn Llundain;
  • ers 1282 roedd y beirdd wedi bod yn galw am rywun - rhyw Arthur neu Owain - i godi i arwain y Cymry i annibyniaeth.

Ond, yn 1400, roedd Glynd诺r yn 诺r canol oed parchus. Pam, felly, yr aberthodd bopeth mewn gwrthryfel tyngedfennol?

Pam ddechreuodd y gwrthryfel yn 1400?

Cerflun Owain Glynd诺r yn arwain i ryfel yng Nghorwen
Cerflun o Glynd诺r yng Nghorwen

  • Ers marw Tywysogion olaf Cymru yn 1282-4 roedd y Cymry'n teimlo o dan ormes y Saeson. Roedden nhw'n cas谩u'r cestyll estron a breintiau arbennig y bwrdeistrefi Seisnig.
  • Yn 1349 lladdodd y draean y boblogaeth gan adael creithiau cymdeithasol ac economaidd dwfn.
  • Roedd ymdeimlad o ragfarn hiliol - ymysg clerigwyr eglwysig a myfyrwyr Cymreig yn Rhydychen.
  • Yn 1399 cipiodd Harri Bolingbroke goron Lloegr oddi ar ei gefnder, Richard I. Oedd y Cymry'n teimlo nad oedd gan Harri IV hawl i'w teyrngarwch nhw?
  • O safbwynt Glynd诺r, roedd e wedi cweryla gyda'i gymydog, yr Iarll Reginald de Grey o Ruthun. Ar fwrdeistref Rhuthun yr ymosododd y Cymry gyntaf ym Medi 1400.

Rhwng popeth roedd ysbryd gwrthryfel yn y gwynt erbyn 1400.

Hynt a helynt y gwrthryfel:

Wedi ymosodiadau Medi daeth Harri IV ar gyrch i ogledd Cymru. Ciliodd Glynd诺r i'r mynyddoedd ac ni chafodd bardwn. Yna, ar Ebrill 1, 1401, cipiodd ei ddau gefnder, Rhys a Gwilym Tudur o Benmynydd, M么n, gastell Conwy ac ail-gyneuwyd y fflam.

Ailgread o fuddugoliaeth Glynd诺r ym mrwydr Bryn-glas

Rhwng 1401-05 aeth y gwrthryfel o nerth i nerth. Trechwyd byddinoedd y Saeson ym mrwydrau Hyddgen ar Bumlumon yn 1401 a Bryn-glas, ger Trefyclo, yn 1402, pan gipiwyd Edmwnd Mortimer, un o arglwyddi pwysicaf y Mers. Trodd Mortimer i gefnogi Glynd诺r a phriodi Catrin, ei ferch. Roedd eisoes wedi dal de Grey a hawlio 拢10,000 yn bridwerth amdano.

Llwyddodd Glynd诺r i ymestyn ei awdurdod ledled Cymru a choncro cestyll Caerfyrddin, Aberystwyth a Harlech. Ffafriai dactegau gerila a chydweithio 芒 gelynion Harri IV. Felly, crewyd cynghrair rhwng Cymru a Ffrainc a glaniodd 3,000 o filwyr o Ffrainc yn Aberdaugleddau yn 1405 i gynorthwyo byddin Glynd诺r i ymosod ar Loegr. Ond, chwythodd yr ymosodiad hwn ei blwc.

Ymunodd Glynd诺r mewn Cytundeb Tridarn ag Iarll Northumberland ac Edmund Mortimer, i rannu Lloegr a Chymru rhyngddynt ar 么l iddynt drechu Harri IV - gyda Glynd诺r yn dywysog ar Gymru a'r Mers. Ond ni wireddwyd y freuddwyd. Trechwyd byddin Glynd诺r ym mrwydr Pwll Melyn, Gwent, yn 1406.

Glynd诺r fel gwladweinydd:

Senedd-dy Glynd诺r ym Machynlleth

Nid arweinydd milwrol gwych yn unig oedd Glynd诺r. Roedd ganddo ef a'i gynghorwyr weledigaeth ar gyfer y Gymru annibynnol newydd. Cynhaliwyd dwy senedd: yn 1404 ym Machynlleth, lle coronwyd ef yn Dywysog Cymru ger bron llysgenhadon o'r Alban, Ffrainc a Sbaen; ac yn Harlech, ei lys brenhinol, yn 1405. Pinacl ei yrfa fel gwleidydd oedd Llythyr Pennal at Charles VI, brenin Ffrainc, lle galwyd am sefydlu eglwys annibynnol yng Nghymru; clerigwyr yn siarad Cymraeg a dwy brifysgol i wasanaethu'r wladwriaeth newydd.

Y blynyddoedd olaf:

Erbyn 1408-09 roedd y gwrthryfel yn colli tir. Herwr oedd Glynd诺r bellach ac ymddengys iddo dreulio'i flynyddoedd olaf gyda'i ferch ym Monnington, swydd Henffordd. Ni chafodd ei fradychu erioed, er gwaetha dinistr a llosgi'r gwrthryfel.

Tyfodd myth am ei ddyddiau olaf. Honnai'r beirdd na fu farw ac y byddai'n dychwelyd, ryw ddiwrnod, i arwain y Cymry i annibyniaeth. Bu'r freuddwyd hon, y deuai mab darogan i achub Cymru, yn cynnal y genedl am ganrifoedd.

Erbyn hyn, mae gan Gymru ei Senedd ei hun ym Mae Caerdydd, ac yn 2008 sefydlwyd Prifysgol Glynd诺r yn Wrecsam.


About this page

This is a history page for schools about the last 'Prince of Wales' who led a ten year revolt against the English king. Owain Glynd诺r wanted to establish an independant Wales with a parliament, a Welsh Church and two universities. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 成人快手 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.