Owain Glynd诺r
Owain Glynd诺r oedd yr arweinydd Cymreig olaf i arwain gwrthryfel yn erbyn Brenin Lloegr. Yn hanu o linach frenhinol Powys a'r Deheubarth, fe'i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16, 1400 ym mhresenoldeb llysgenhadon o'r Alban, Ffrainc a Sbaen.
Ymysg ei ddyheadau i Gymru roedd sefydlu gwlad annibynnol gyda Senedd, Eglwys Gymreig a dwy brifysgol a llwyddodd i ennill cefnogaeth y rhan fwyaf o Gymru ac, am gyfnod, frenin Ffrainc.
Roedd ei wrthryfel yn ei hanterth rhwng 1400 a 1405 a threchodd y Saeson mewn dwy frwydr enwog yn Hyddgen ar Bumlumon yn 1401 a Bryn-glas, ger Trefyclo, yn 1402.
Ond erbyn 1406 roedd ei ymgyrch yn colli tir ac ni wireddodd Glynd诺r ei freuddwydion.
Does neb yn gwybod sut na ble y bu farw, ffaith sy'n cyfrannu at y mytholeg sydd wedi tyfu o'i gwmpas.
Ers sawl blwyddyn mae Medi 16 wedi ei nodi yn Ddiwrnod Glynd诺r gyda nifer yn dathlu'r dyddiad fel g诺yl answyddogol.
Mae cerflun o Owain Glynd诺r ar y sgw芒r yn nhref Corwen ac un arall yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Ysgrifennodd y bardd Iolo Goch gerdd i lys Glynd诺r yn Sycharth, Powys, sy'n rhoi disgrifiad manwl ohoni fel lle croesawgar, gwaraidd, llawn hwyl.
Mae llawer mwy o wybodaeth am Owain Glynd诺r ar y tudalennau hyn:
Mwy
Cysylltiadau'r 成人快手
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Hanes Cymru
Mae ychydig ddyddiau ar 么l i wylio cyfres Huw Edwards am dros 30,000 o flynyddoedd o hanes Cymru eto.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.