In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Hedd Wyn yn cychwyn i ryfel
Clip fideo, gydag isdeitlau Saesneg, o Enid Morris, chwaer Hedd Wyn, yn ei gofio'n cychwyn i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf o'u cartref yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd, am y tro olaf.
06 Tachwedd 2008
Cafodd Ellis Humphrey Evans, bardd a ysgrifennai dan yr enw Hedd Wyn, ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf chwe wythnos cyn i'w gerdd, Yr Arwr, ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917. Galwyd yr eisteddfod honno yn Eisteddfod y Gadair Ddu gan i'r Archdderwydd daenu lliain du dros y Gadair.
Lladdwyd Hedd Wyn tra'n ymladd gyda 15fed bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig ym mrwydr enwog Cefn Pilkem, Ypres, yng Ngwlad Belg. Roedd wedi ysgrifennu ei gerdd fuddugol a'i hanfon o'r ffosydd dan y ffug-enw Fleur-de-Lis.
Darlledwyd y darn fideo yn wreiddiol yn y rhaglen All Our Lives: Tears and Telegrams a ddarlledwyd yn 1994.
Cysylltiadau eraill:
Straeon Digidol
Perthyn
Stori am dynfa deuluol i Ffrainc lle lladdwyd aelod o'r teulu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gogledd ddwyrain
Rhuthun a'r Rhyfel Mawr
Collodd y dref farchnad 101 o filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.