成人快手

Explore the 成人快手
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hedd Wyn - darganfod llythyr
Darganfod llythyr gwreiddiol a sgrifennodd Hedd Wyn 'Rhywle yn Ffrainc'

Medi 2007
Mae'r copi gwreiddiol o un o lythyrau enwocaf llenyddiaeth Gymraeg wedi ei ddarganfod.

Bu'r llythyr sy'n cael ei adnabod fel "Llythyr Rhywle yn Ffrainc" a sgrifennwyd gan Hedd Wyn yn gorwedd am flynyddoedd yn archifdy Prifysgol Bangor heb i neb wybod amdano.

Yr archifydd, Einion Thomas a fu'n dweud sut y cafodd ei ddarganfod wrth Dei Tomos ar ei raglen radio, nos Sul, 16 Medi 2007.


"Mi gafwyd hyd i'r llythyr ymhlith toreth o lythyrau eraill mewn rhyw ystafell yn y coleg oedd dan glo," meddai.

Llofnod Hedd Wyn
"Mi alwyd fi draw i weld beth oedd yno ac yn sydyn hollol dyma fi'n gweld yr amlen yma a thu mewn i'r amlen yr oedd yna lythyr [ac o edrych arno fo] dyma fi'n sylweddoli'n sydyn bod llofnod Hedd Wyn arno fo.

"Ac fel roeddwn i'n i ddarllen [roeddwn i'n cofio] ei ddarllen o'r blaen yn rhywle ac mi es i yn 么l i lyfr Alan Llwyd a sylweddoli mai hwn oedd y gwreiddiol o lythyr mae Alan Llwyd yn ei alw yn 'Llythyr Rhywle yn Ffrainc' a sgrifennwyd gan Hedd Wyn ar 24 Mehefin 1917 ac a gyhoeddwyd yn Y Rhedegydd.

"A hefyd mi wnaeth William Morris ei gyhoeddi yn 'Cerddi'r Bugail' ac mi ddaru Alan Llwyd ei gyhoeddi fo.

"Ond dyma y gwreiddiol sgrifennodd o yn Ffrainc," meddai.

Profiad anhygoel
Dywedodd i'w ddarganfyddiad fod yn brofiad anhygoel:

"Pan ydych chi'n canfod rhywbeth fel hyn mae yna rywbeth yn mynd i lawr asgwrn eich cefn chi - rydych chi'n canfod rhywbeth pwysig ofnadwy yn hanes Cymru.

"Dydi o ddim yn digwydd yn aml ond pan mae o'n digwydd mae o'n anhygoel," meddai.

Cais i'w sgrifennu
Ysgrifennwyd y llythyr rhyw bum wythnos cyn Eisteddfod Genedlaethol y Gadair Ddu ym Mhenbedw.

Llofnod Hedd Wyn Dywedodd mai'r gred yw i'r llythyr gael ei sgrifennu ar gais penodol Y Rhedegydd a'i fod o'r herwydd yn llenyddol ei naws wedi ei sgrifennu gyda chynulleidfa mewn golwg.

"Mae yna ddisgrifiadau gwych ynddo fo - mae yna'r disgrifiad enwog o hen shell a blodau yn tyfu ohoni - y cyferbyniad rhwng rhywbeth hardd a rhywbeth cas a brwnt fel y shell [ac] mae'n amlwg mai i ddarllenydd cyffredinol roedd o wedi sgrifennu hwn," meddai Einion Thomas.

Mae'r llythyr yn tynnu cymhariaeth hefyd rhwng y wlad hardd o gwmpas - yn Rouen mae'n debyg -a'r dinistr a achoswyd gan y brwydro.

"Mae o bron iawn yn broffwydol yn s么n mai blodau prudd fyddai Ffrainc - y Pabi Coch wrth gwrs. Ac yn s么n am y gwynt oer yn chwipio ar draws yr erwau yn Ffrainc - a dyna adlais o 'gwae fi fy myw' a 'gwaedd y bechgyn lond y gwynt a'u gwaed yn gymysg gyda'r glaw'.

"Mae o hefyd fel pe byddai'r coed yn ceisio siarad efo'r milwr. Mae o'n dweud: 'Mae'r coed yn uchel a deiliog a'u dail yn ysgwyd , crynu a murmur, fel pe byddent yn ceisio dweud rhywbeth na wyddom ni amdano,' ac yn adleisio wedyn y tristwch a'r hiraeth sydd yng Nghymru ar 么l yr holl fechgyn a gollwyd.

"Ac mae hynny yn broffwydol o'r hiraeth mawr a fu ar 么l y galanst yma o ladd a cholli gwaed di-alw amdano yn Ffrainc," meddai.

Sgrifennwyd y llythyr bum wythnos cyn marw Hedd Wyn.

"A dyna'r eironi mawr, y byddai o ei hun yn gorwedd yn Ffrainc," meddai Einion Thomas.

Yr oedd Hedd Wyn wedi sgrifennu ar y ddwy ochr i ddalen ddwbl a dwy ochr i ddalen sengl gan amrywio'r ffordd yr oedd wedi gosod y papur o fod ar ei ochr ac ar i fyny yn y ffordd arferol. Mae ei lofnod ar ben y ddalen gyntaf gan nad oedd lle ar waelod y ddalen olaf.

Tri drafft
Dywedodd nad dyma'r unig drysor yn llawysgrifen Hedd Wyn yn yr archif. Mae yno dri drafft o gerdd fuddugol y Gadair Ddu y cyntaf wedi ei sgrifennu cyn ymuno a'r fyddin.

"Ac wedyn mae yna gopi diweddarach wedi ei sgrifennu yng ngwanwyn 1917 ac wedyn mae gennym ni'r mwyaf cyflawn - Bangor C rydym yn ei galw - a sgrifennodd o fwy na thebyg yn Ffrainc cyn iddo anfon copi arall i'r Eisteddfod."

"Dywedodd mai mewn 'copibwcs' yr oedd Hedd Wyn yn sgrifennu ei gerddi ac yn eu hail sgrifennu nhw ac yn croesi allan.

Ond y llythyr - a'r dirgelwch o ble y daeth - sy'n mynd a bryd pawb ar hyn o bryd:
"Yr ydym yn meddwl ei fod wedi dod i mewn yn 1940 a dyna'r cwbwl [a wyddom] - ond mae o yma, ac mae o'n saff ac yn rhan o gasgliad Hedd Wyn," meddai.

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr .

Cysylltiadau Perthnasol
  • Hanes Hedd Wyn

  • Alan Llwyd yn trafod Hedd Wyn

  • Tr锚n y Gadair Ddu


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy