| |
|
|
|
|
|
|
|
Hanner Amser Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Adolygiad Lowri Roberts o Hanner Amser - Hunangofiant Nigel Owens. Lolfa. 拢9.95.
Rhaid cyfaddef fy mod wedi edrych ymlaen yn eiddgar at gael darllen hunangofiant Nigel Owens, fyth ers imi glywed fod y gyfrol ar y gweill.
Oes mae gennyf ddiddordeb mawr mewn rygbi - bu fy nhad yntau yn dyfarnu am flynyddoedd lawer.
Ond clywed y g诺r ei hun yn sgwrsio ar radio a theledu wnaeth imi sylweddoli bod mwy i Nigel Owens na'r persona cyhoeddus ry'n ni'n ei weld ar gaeau rygbi'r byd neu ar soffa Jonathan.
Mae gan yr unigolyn hwn st么r o hanesion a phrofiadau ingol i'w rhannu 芒'i gynulleidfa ac mae'n gwneud hynny mewn dull onest, di-flewyn ar dafod ac mae hynny ynddo'i hun yn chwa o awyr iach mewn oes lle mae 'enwogion' yn cyhoeddi hunangofiannau yn unig er mwyn gwneud arian a dim mwy.
Mwy na rygbi
I unrhyw un sy'n credu mai cyfrol i ddilynwyr y b锚l hirgron yw hon, yna ry'ch chi wedi camddeall.
Ydy, mae Nigel yn rhoi cipolwg inni ar fywyd dyfarnwr proffesiynol, yn datgan barn ar wahanol agweddau o'r chwarae ac yn rhannu ambell i stori ddigri yngl欧n 芒'i brofiadau ar y maes chwarae - ond mae cymaint mwy i'r gyfrol na'r agwedd hon yn unig.
Cymerwch y paragraff agoriadol lle mae'n s么n am y profiad o geisio cymryd ei fywyd ei hun a'r effaith a gafodd y digwyddiad dirdynnol hwnnw arno ef, ei ffrindiau a'i deulu.
Nid ar chwarae bach y mae rhywun yn penderfynu rhannu profiad mor bersonol 芒 chynulleidfa ehangach ond ys dywed Nigel ei hun:
"Ro'n i wedi penderfynu o'r dechre mod i'n mynd i fod yn onest yn y llyfr... yr holl fusnes o fod yn hoyw a cheisio cymryd bywyd yn hunan. Fel arall bydde pobl ddim yn meddwl fod hwn yn hunangofiant go iawn."
'Dod mas' Ac mae'r profiad o "ddod mas" yngl欧n 芒'i rywioldeb yn naturiol yn cael cryn sylw yn yr hunangofiant ... yr hyn a'i symbylodd i ddatgan ei wir deimladau a'r ymateb a fu i'r penderfyniad hwnnw ymysg teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
Yn ddiweddar cafodd ei wobrwyo 芒 thlws personoliaeth Stonewall - mudiad sy'n hyrwyddo buddiannau pobl hoyw. Er yn cydnabod nad oedd yn fwriad ganddo, trwy "ddod mas", i godi proffil pobl hoyw dywed ei fod " yn browd iawn o'r wobr a'r anrhydedd o'i hennill".
Yn ogystal 芒'i fywyd personol mae yma doreth sylweddol o hanesion doniol a difyr am ei fagwraeth yng nghefn gwlad, ei gyfnod yn ofalwr yn Ysgol Maes yr Yrfa ac yn ddiddanwr ar lwyfannau Cymru.
Yma, mae'r elfen ddireidus, gomed茂ol o'i bersonoliaeth yn dod i'r amlwg - y ddelwedd ry'n ni'n ei chysylltu 芒'r g诺r hoffus, byrlymus, ar raglen Jonathan.
Chwerthin yn afreolus Ar fwy nag un achlysur bum yn chwerthin yn afreolus wrth ddarllen am ryw anffawd neu'i gilydd a ddaeth i'w ran fel y tro y llwyddodd i ddianc o dacsi heb dalu wedi noson feddwol yng Nghaerfyrddin.
Ar 么l neidio dros ddwy wal a stryffaglio i'w draed sylweddolodd bod y gyrrwr wedi mynd ag e i bentref Mynydd y Garreg ger Cydweli -wyth milltir i ffwrdd o'i gartref ym Mynyddcerrig! Boed i hynny fod yn wers i ni i gyd!
Milltir sgwar Er iddo deithio i bedwar ban fel un o ddyfarnwyr gorau'r byd, g诺r ei filltir sgw芒r ydyw, heb os a phrawf o hynny yw'r ffaith iddo ddewis aros yn ei gynefin ymysg teulu a ffrindiau - er gwaethaf y cyfnodau helbulus yn ei fywyd.
Wrth ddatgan barn ar ddinasoedd hudolus fel Wellington, Biarritz a Cape Town yn yr atodiad - ei fagwrfa ym Mynyddcerrig sy'n cael y prif sylw:
"Dyma'r lle gorau yn y byd. Dyma lle dechreuodd y cyfan ac yma, rhyw ddydd, fe wnaiff y cwbl orffen hefyd."
Hanner Amser yw teitl y gyfrol. Yn bennaf am nad yw gwrthrych y cofiant mewn sefyllfa hyd yma i ddatgelu'r cyfan - ag yntau'n dal i ymwneud o ddydd i ddydd ag enwau mawr y byd rygbi. Mawr fydd y disgwyl am anturiaethau'r ail hanner.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 成人快手 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|