成人快手

Cofio Erchyllter y Rhyfel

top
David Harries

09 Tachwedd 2011

O lygad y ffynnon gwelodd David Harries greulondeb ei ddalwyr, ac fe frwydrodd i oroesi mewn cyflyrau difrifol yng ngwersylloedd Carcharorion Rhyfel drwg-enwog y Japaneaid yn Indonesia lle bu farw miloedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Eleni derbyniodd Clwb Carcharorion Rhyfel Jafa a'r Dwyrain Pell 1942 ddyfarniad o 拢21,000 gan raglen Arwyr yn 脭l 2 y Gronfa Loteri Fawr i helpu goroeswyr i fynd ar daith ddychwelyd emosiynol i Ynysoedd y Moluccas sef Ambon a Haruku yn Indonesia. Cynhaliwyd digwyddiad aduno arbennig yn 么l ym mis Awst eleni yn Swydd Warwig, yr aeth David Harries, 89 oed, iddo.

Chwedeg chwe mlynedd yn ddiweddarach, wrth i'r genedl baratoi ar gyfer seremon茂au i goff谩u arwriaeth y genhedlaeth arbennig honno ar Ddydd Sul y Coffa (13 Tachwedd), bydd yr awyrennwr David Arthur Harries o Landybie, Sir G芒r, yn rhannu ei atgofion ar 么l aduniad gyda'r nifer bach o garcharorion rhyfel sydd gyda ni o hyd yn ystod digwyddiad arbennig a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr.

Wedi'i eni a'i fagu ym Mhontarddulais, ymunodd yr Awyrennwr David Arthur Harries o Landybie, Sir G芒r, ag Uned Trwsio ac Arbed 81 y Llu Awyr Brenhinol fel peiriannwr yn 17 oed ym 1939. Fel llawer o rai eraill o'r un oedran ag ef, teimlodd cynnwrf mawr ac ymdeimlad o antur. Ei brofiad cyntaf o'r Rhyfel oedd Brwydr Prydain, a'i dasg oedd trwsio'r awyrennau Spitfire a Hurricane a gymerodd ran yn y frwydr.

Yna, fe'i anfonwyd dramor i Singap么r ac fe dreuliodd rhywfaint o amser ym mhrif wersyll RAF y Dwyrain Pell, Seleter, lle adeiladwyd awyrennau ffug a drosglwyddwyd i feysydd awyr ledled Malaya i'w defnyddio i dwyllo awyrenwyr y gelyn. Pan oresgynnodd y Japaneaid ym mis Rhagfyr 1941, symudwyd ei uned ef i'r gogledd o Benang. Yn ystod y mis dilynol gwnaethant gilio drwy'r meysydd awyr amrywiol i lawr Malaya gan nad oedd y Cynghreiriaid wedi paratoi ac nad oeddent yn gallu atal cynnydd y Japaneaid.

"Roedd y Japaneaid yn brysur iawn gyda'u hawyrennau, a byddai ein confoiau'n cael eu bomio ar eu ffordd i'r meysydd awyr," meddai David wrth gofio.

"Pan fomiwyd un o'r meysydd awyr fel gollom un swyddog a thri dyn. Y tro cyntaf yr ymosodir arnoch mae'r ofn yn enfawr, ond rydych yn dod i arfer 芒 dod o hyd i'r lloches orau y gallwch. Y profiad mwyaf erchyll o bell ffordd oedd cael eich pledu gan yr awyrennau. Dyna pryd mae awyrennau ymosod yn dod o gwmpas dwywaith ac yn defnyddio gynau peiriant arnoch. Erbyn hyn roedd y Japaneaid yn rheoli'r awyr yn gyfan gwbl ac roedd yr awyrennau Brewster Buffalo a ddefnyddiom i amddiffyn Malaya yn aneffeithiol iawn fel awyrennau ymosod."

Encilio

Gwersyll carcharorion rhyfel
Gwersyll carcharorion rhyfel

Yn y pen draw enciliodd uned David i faes awyr RAF o'r enw Sembawang yng Ngogledd Singap么r cwpl o wythnosau'n unig cyn bod Singap么r yn cwympo ym mis Chwefror 1942.

Gwnaethom newid i fod yn droedfilwyr, a rhoddwyd reifflau a ffosydd i ni. Cawsom ein sielio'n ddi-baid gan y Japaneaid, a dim ond milltir i ffwrdd o'n canolfan oedden nhw ar y pwynt hwn. Roedd y sieliau'n llawer rhy agos, a dyna pryd es i mewn i'r ffos i ysgrifennu fy ewyllys," meddai David.

Yna dywedwyd wrthynt y byddai holl berson茅l RAF yn cael eu tynnu allan o Singap么r i ynys Jafa yn Indonesia, felly meddiannodd David fws bach, a gyrrodd gyda'r dynion i Singap么r.

Gwnaethom gyrraedd y dociau yn Singap么r a chawsom ein blino gan gyrchoedd awyr trwm awyrennau o Japan a oedd yn symud tuag atom," mae'n esbonio.

"Roedd y cyflyrau'n gwbl anniben, roedd yn hynod o brysur, roedd llawer o'r Ddinas yn llosgi ac roedd cerbydau wedi'u dinistrio ym mhobman. Llwyddais fynd ar gwch bach yn yr harbwr a aeth 芒 ni i gyd i Jafa. Gwnaethom gyrraedd Batavia (sef Jakarta bellach) yn hwylus, er yr oedd cychod eraill a oedd yn rhan o gonfoi wedi dioddef ymosodiadau awyr eithaf dwys. Y tro hwnnw roeddem yn ffodus iawn."


Anfonwyd tri theulu n么l i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Gogledd ddwyrain

Arfau cemegol

Ffatri gemegau

Cyfrinach hen safle arfau cemegol o'r Ail Ryfel Byd ger yr Wyddgrug.

Gogledd orllewin

Milwyr yn yr Aifft

Straeon rhyfel

O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.

Canolbarth

Parti stryd

Diwrnod VE

Dathlu diwedd y rhyfel ac atgofion ifaciw卯s gan bobl y canolbarth.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.