成人快手

Heddlu a Glowyr

Streic y Glowyr

15 Ionawr 2009

Yr oedd yr Wythdegau yn gyfnod o drawsnewid mawr yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain gyda honiadau fod rhai pyllau yn amhroffidiol ac yn aneconomaidd a hynny'n peri i Lywodraeth Margaret Thatcher symud tuag at newid.

Dadleuwyd nad oedd cytundeb a wnaed gyda'r Undebau yn 1974 yn berthnasol erbyn hyn oherwydd y newid yn economi'r wlad.

Roedd Undeb y Glowyr yn gryf iawn yn y 1980au cynnar gydag aelodaeth uchel a chysylltiadau cryf 芒'r blaid Lafur. Bu bygwth streic yn 1981 yn fodd i berswadio'r Llywodraeth i ohirio cynlluniau i gau nifer o byllau ym mhob rhan o Brydain.

Yn 1983 penodwyd Ian MacGregor yn bennaeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan Margaret Thatcher.

Yr oedd ef eisoes wedi gwneud enw iddo'i hun yn ei swydd flaenorol gyda Dur Prydain lle bu nifer o doriadau a diswyddiadau er mwyn lleihau colled ariannol y cwmni.

Dechrau'r streic Ddechrau 1984 cyhoeddwyd y byddai'r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn cau 20 o byllau glo gan golli 20,000 o swyddi.

Dechreuodd Streic y Glowyr i bob pwrpas wrth i lowyr pwll glo Cortonwood yn Swydd Efrog adael eu gwaith ar Fawrth 6 y flwyddyn honno yn dilyn pleidlais leol.

Dilynodd hyn gyhoeddiad pellach gan y Bwrdd Glo fod pum pwll i'w cau ar frys o fewn pum wythnos.

Lledaenodd drwy Brydain a gwelid ei heffaith yn amlwg iawn yng Nghymru.

Arthur Scargill
Arthur Scargill

Dros y dyddiau a ddilynodd ymunodd degau o filoedd o lowyr led-led Prydain yn y streic ond nid pawb oedd yn gefnogol gyda phyllau glo Nottingham yn dal i weithio.

Er i'r streic ddod yn streic genedlaethol gan Undeb y Glowyr yn wreiddiol yn ddiweddarach bu i Arthur Scargill, arweinydd Undeb y Glowyr, atal pleidlais genedlaethol gan ddatgan y gallai gwahanol ranbarthau'r Undeb benderfynu yn annibynnol os oeddynt i streicio a'i peidio.

Brwydr Orgreave Bu peth ymladd rhwng picedwyr a'r heddlu yn ystod wythnosau cyntaf y streic gan arwain at rai anafiadau ond bu'r ymladd yn Orgreave ger Sheffield ar Fai 29 yn llawer ffyrnicach a'r heddlu'n defnyddio offer gwrth-derfysg am y tro cyntaf mewn streic.

Ymgasglodd dros 5,000 o lowyr y tu allan i'r olosgfa yn Orgreave - y nifer mwyaf ar linell biced mor belled ac fe'u wynebwyd gan dros 6,000 o heddlu o ddeg sir gwahanol. Roedd rhai o'r swyddogion heddlu ar gefn ceffyl, rhai gyda ch诺n, ac eraill ar droed.

Protestwyr
Protestwyr

Cychwynodd y dydd yn ddigon heddychlon, ond pan gyrhaeddodd y lor茂au cyntaf y safle, ceisiodd y picedwyr dorri drwy linellau'r heddlu i'w hatal rhag gwneud eu gwaith. Cafodd y picedwyr eu gyrru am yn 么l gan yr heddlu ac o dipyn i beth newidiodd yr awyrgylch gyda cherrig a briciau yn cael eu taflu a batonau yn cael eu defnyddio.

Yn 么l ffigyrau swyddogol, anafwyd 72 o blismyn a 51 o bicedwyr ac arestiwyd 93. Mae'n debyg i fwy o bicedwyr gael eu hanafu na'r hyn sydd wedi ei gofnodi ond i lawer ohonynt ddewis peidio cael sylw meddygol gan eu bod ofn cael eu harestio. Ymysg y rhai a anafwyd yr oedd arweinydd Undeb y Glowyr, Arthur Scargill, a gafodd ei arestio.

Craciau'n dechrau ymddangos Wrth i'r streicio barhau, aeth pethau'n anos i'r glowyr a'u teuluoedd gan nad oedd y gweithwyr yn ennill cyflog nac yn deilwng o fudd-daliadau gan fod y streic wedi ei nodi yn un anghyfreithlon. Dibynnai llawer ar roddion a chardod.

Aeth pethau mor anodd i rai teuluoedd fel nad oedd dewis ond mynd yn 么l i'w gwaith a thorri'r streic a'u hystyried yn 'fradwyr' gan y rhai oedd yn parhau i streicio.

David Wilkie
David Wilkie

Fis Tachwedd 1984, cyhuddwyd dau l枚wr ifanc oedd yn streicio o lofruddio David Wilkie - gyrrwr tacsi 35 oed o Drefforest - trwy daflu bloc concrid o bont ar ei gar. Ar y pryd, roedd Wilkie yn cludo un o'r rhai oedd wedi torri'r streic yn y de yn 么l i'w waith yng nglofa Ynysowen.

O fewn Cymru, roedd y rhai oedd yn cadw at y streic yn amrywio'n sylweddol rhwng y de a'r gogledd. Yn y gogledd, 35% o'r 1,000 o ddynion a gyflogwyd aeth ar streic, ac reodd y ffigwr yma wedi syrthio i 10% erbyn i'r streic ddod i ben yn 1985.

Roedd y ffigwr yma yn cymharu a 99.6% o'r gweithlu o 21,500 ar ddechrau'r streivc yn y de a 93% erbyn y diwedd. Yr oedd hyn yn fwy nag yn unman arall.

Diwedd swyddogol y streic Daeth y streic i ben yn swyddogol ar Fawrth 3 1985, pan basiwyd pleidlais i ddychwelyd i'r gwaith er nad oedd cytundeb newydd wedi ei lunio gyda'r rheolwyr. Dychwelodd y glowyr i'w gwaith ar Fawrth 5 ond caewyd llawer o byllau glo yn gyflym dros y blynyddoedd nesaf.

Gl枚wr wrth y pwll
Gl枚wr wrth y pwll

Fe breifateiddwyd y diwydiant glo ym Mhrydain ym 1994, ac un o'r pyllau glo i gau yn y flwyddyn honno oedd Pwll y T诺r yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf - pwll a agorwyd yn 1805. Ail-agorwyd y pwll flwyddyn yn ddiweddarach, wedi i'r staff fuddsoddi eu harian a gafwyd o golli gwaith, a'i brynu.

Daeth Pwll y T诺r i fod yr unig bwll glo yng Nghymru oedd dal yn gweithio, ond rhoddwyd y gorau i'r cloddio ar Ionawr 18fed 2008, a chaewyd y pwll yn swyddogol ar Ionawr 25ain, gan ddod 芒 diwedd i ddiwydiant oedd unwaith yn cyflogi 200,000 o bobl.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.