成人快手

Sian Sutton yn cofio streic y glowyr

top

Ym 1984 gwelwyd cychwyn anghydfod diwydiannol gyda'r mwyaf arwyddocaol erioed yn hanes gwledydd Prydain.

Yn 2004, ugain mlynedd yn ddiweddarach, bu cyn ohebydd 成人快手 Radio Cymru, Sian Sutton sy'n hannu o Bontardawe, yn ymweld 芒 hen ardal y glo yn y de orllewin ac yn siarad 芒 dynion a merched oedd yn rhan o'r streic. Dyma ei hargraffiadau yn dilyn hynny:

Blwyddyn y Streic

Ym 1984 roedd gweld rhes o lor茂au, un ar 么l y llall, ar draffordd yr M4 yn rhan o'r siwrne ddyddiol o Gwmtawe i'r gwaith yn y 成人快手 yng Nghaerdydd. Roedd y lor茂au yn cario glo i waith dur Porth Talbot yn ystod Streic y Glowyr. Ac wrth fynedfa'r gwaith roedd grwp o bicedwyr yn ceisio darbwyllo'r gyrwyr i droi n么l a'r heddlu yn ceisio cadw cyfraith a threfn. Roedd gwrthdaro yn anochel.

Swyddi, pyllau a ffordd o fyw

Dyma un o'r atgofion am gyfnod y streic ddaeth ag Arthur Scargill o Undeb y Glowyr benben 芒 Margaret Thatcher a'i llywodraeth. Ond wrth i'r anghydfod diwydiannol barhau a'r wythnosau droi'n fisoedd, fe ddaeth nodweddion eraill hefyd yn ymwneud 芒 chymdeithas y Cymoedd yn amlwg.

Er na chafwyd pleidlais genedlaethol gan Undeb y Glowyr, roedd pob pwll glo yn Ne Cymru ar streic gyda glowyr a'u teuluoedd yn gadarn eu cefnogaeth i'r ymdrech i achub swyddi, pyllau glo a ffordd o fyw. Fe ddaeth ymdrech fawr y gwragedd a newid agwedd yn y cymunedau glo wrth i ferched ddod at ei gilydd i gynnal eu teuluoedd a'r plant trwy gasglu arian a pharatoi parseli bwyd wythnosol ac i weithredu'n gyhoeddus am y tro cyntaf.

Ym mis Mai er hynny roedd nifer o lowyr yn blino ar y frwydr ac yn dechrau s么n am ddychwelyd i'r gwaith gan dorri'r streic. Roedd teimladau'n gryf iawn ymhlith y streicwyr a'r gweiddi Scabs yn uchel wrth glwydi'r pyllau.

Newid bywydau

Yn 2004, mae'n syndod bod y teimladau'n dal yn fyw iawn yng nghof pawb oedd ynghlwm wrth ddigwyddiadau'r Streic ac wrth i mi baratoi rhaglen Manylu ar 成人快手 Radio Cymru daeth yn amlwg i'r flwyddyn newid bywydau yn y cymoedd. Ac mae llawer o brofiadau'r cyfnod wedi'u cadw mewn dyddiaduron a lluniau sydd wedi'u tynnu o'r cypyrddau a'r atig.

Cyn lowyr erbyn hyn yn s么n am eu penderfyniad wrth deithio Prydain yn picedu a'r profiadau yno wrth i'r heddlu eu gwylio, eu rhwystro a'u holi ac am wrthdaro ar linellau piced yn enwedig yn Orgreave Swydd Efrog.

Aelodau'r heddlu wedyn oedd 芒 pherthnasau eu hunain yn gweithio yn y diwydiant glo yn gwneud casgliad ariannol i'r glowyr a'u teuluoedd ond yn gorfod plismona'r picedwyr eilradd anghyfreithlon. A'r gwragedd fu'n ymgyrchu dros eu teuluoedd gan fynd a neges y glowyr i lwyfannau cenedlaethol.

Cau pyllau

Fe ddaeth tro ar fyd i bawb wrth i'r pyllau glo gau yn y blynyddoedd wedi'r streic. Mae'n rhyfedd meddwl erbyn hyn wrth fynd heibio hen safle pwll glo Abernant bod naw cant o bobl yn gweithio yno yn 1984. Caeodd y pwll o fewn dwy flynedd i'r streic.

Erbyn hyn mae nifer o'r glowyr wedi ail hyfforddi ac yn dilyn gyrfaoedd newydd na fydden nhw wedi'u dychmygu o gwbl ugain mlynedd yn 么l; un yn dechnegydd ysbyty, un arall yn athro offerynnau pres mewn ysgolion, un arall - ar 么l damwain dan ddaear - yn gyrru faniau i gwmni lleol, un o'r gwragedd ar 么l graddio yn gweithio i fudiad Cymorth i Fenywod tra bo Prif Gwnstabl dros dro Heddlu'r De wedi ymddeol ar 么l cyfnod yn arolygwr lleyg ym myd addysg.

Mae'r cyn swyddog undeb yng Nghyfrinfa Abernant, a oedd wedi derbyn t芒l diswyddo'n gynnar ym 1986, yn hanner cant oed ac yn gweithio'n wirfoddol i Undeb y Glowyr yn cynghori cyn lowyr a'u gweddwon ar eu hawliau a sut i wneud cais am iawndal am effaith llwch y glo.

Erbyn hyn, gyda'r pyllau wedi cau a'r fywoliaeth dan ddaear yn rhan o'r gorffennol, dyma'r unig gysylltiad sydd ar 么l gyda diwydiant a fu'n rhan o hanes cymoedd y De ynghyd ag atgofion am brofiadau, cwmn茂aeth a ffordd arbennig iawn o fyw - ac am un flwyddyn gofiadwy Streic 1984.

Ysgrifennwyd y darn hwn yn wreiddiol ar gyfer gwefan 成人快手 Lleol i Mi yn 2004


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.