Gwisg Gymreig
topWyddoch chi mai yn y 19g y creuwyd y Wisg Draddodiadol Gymreig fel y gwyddwn amdani heddiw? Ac mai creadigaeth gwraig fonheddig oedd 'gwisg y werin'?
Mae Huw Roberts o Langefni am i'r byd wybod bod na lawer mwy i'r hen wisg Gymreig draddodiadol na'r ddelwedd gaiff ei gwerthu i'r twristiaid.
"Un o'r rhesymau i mi ymddiddori yn yr hen wisgoedd Cymreig ydy am fy mod yn gweithio gyda pharti dawns Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni, criw o blant ysgol gynradd.
"Felly mi ddechreuais drwy hel hen wisgoedd o Sir Aberteifi gan mai o fa'na y daw'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg Gymreig. Ond fel daeth mwy o wybodaeth i law, mi fues i'n canolbwyntio ar wisgoedd y gogledd - Sir F么n a Sir Gaernarfon hefyd.
"Mae gan Amgueddfa Gwynedd ym Mangor gasgliad da o ddillad oedd yn help mawr i mi. Wrth ail-greu dillad o tua chanol y 19eg ganrif, y peth mwyaf deniadol oedd y bratiau, wedi eu gwneud allan o frethyn fetal, sef cymysgfa o sidan, gwl芒n a chotwm. Bratiau 'dydd Sul' oedd y rhain.
Roedd siapiau'r hetiau Cymreig yn gwahaniaethu dros y wlad - roeddent yn fwy sgw芒r yn y gogledd ond yn fwy pigog yn y gorllewin.
Huw Roberts
"Does neb yn si诺r iawn pryd y daeth y ffasiwn i wisgo'r het 'pot llaeth'. Mae rhai yn dweud iddo ddod yn boblogaidd yn y 1840au ond dwi wedi gweld tystiolaeth o ugeiniau cynnar y ganrif.
"Mae'n debyg mai'r teip wedi ei wneud allan o'r 'hatter's plush' oedd yn cael ei wisgo yma. Byddent yn creu'r buckram, sef defnydd stiff wedi ei wneud allan o liain ac efallai cerdyn, a'r hatter's plush drosto - sef cymysgedd o sidan a chotwm. Byddai yn edrych yn ddigon tebyg i'r hetiau mae'r dynion yn eu gwisgo yn Ascott y dyddiau yma!
Yn ystod deng mlynedd ar hugain cyntaf y 19eg ganrif, y dechreuodd Arglwyddes Llanofer ac eraill gymryd diddordeb yng ngwisg y werin fel yr esbonia Christine Stevens:
"Roedd yn fwriad amlwg gan yr Arglwyddes i hyrwyddo diwydiant gwl芒n Cymru, a oedd bellach yn dirywio. Yn ei thraethawd arobryn yn Eisteddfod Gwent a Dyfed ym 1834, yn defnyddio ei llys-enw, Gwenynen Gwent, roedd yn llym ei beirniadaeth ar ferched ifanc o Gymru a oedd yn troi at gotwm tenau:
"Mor fynych y gwelwn y fam o hanner cant oed yn iach ac yn hwylus, ac hyd yn oed y famgu o bedwarugain yn dychwelyd o'r Eglwys neu'r farchnad yn ddiogel rhag y dymestl dan nawdd ei gwn gwlanen cynnes, a'i chlogyn cysurrus, neu fantell Gwent a Dyfed, a het ddu hardd a gwasanaethgar, a'i hosannau gwlan duon, yn troedio ei ffordd tua thre yn ddirwystr gan effeithiau oerni neu wlybaniaeth, tra gwelir y ferch neu wyres dyner a gwanaidd yn ei gwisgad cotwm anghysurus..."
"Er mwyn annog pobl i wisgo gwlanen, dechreuodd hi a'i chyd-genedlaetholwyr gynhyrchu gwlanenni mwy deniadol ac mewn lliwiau ysgafnach yn y melinau gwl芒n ar eu hystadau, yn enwedig yn sgil methiant cystadlaethau eisteddfodol i ddod o hyd i'r 'wlanen Gymreig' berffaith."
"Mynnodd yr Arglwyddes i'w gweision wisgo'r wisg draddodiadol a chafodd ei beirniadu gan rai am hyn. Er na lwyddodd hi i ysgogi pobl Cymru i wisgo gwlanen yn unig, parhaodd yn rhan amlwg o wisg cefn gwlad, ac ar gyfer yr hyn a dd么i maes o law yn wisg genedlaethol."
Un o'r delweddau mwyaf enwog o'r wisg draddodiadol Gymreig yw'r darlun 'Salem' gan Vosper. Y prif gymeriad oedd hen wraig o'r enw Si芒n Owen, Ty'n-y-Fawnog, wedi ei gwisgo mewn si么l frethyn liwgar y dywedir bod wyneb y diafol i'w weld yn ei phatrwm a'i phlygiadau. Ai damwain oedd i'r hen frawd ymddangos ynteu a ydoedd wedi ei osod yno yn fwriadol gan yr arlunydd? Ac os felly, tybed mai gwawdio duwioldeb oedd ei fwriad? Beth bynnag, gwadu wnaeth Vosper pan y'i cyhuddwyd o fod wedi bychanu crefydd a chafodd Si芒n Owen ei hanfarwoli yn un o eiconiau Cymru yn ei gwisg Gymreig.
Cyhoeddwyd erthygl Huw Roberts yn wreiddiol ar wefan 成人快手 Lleol.