Crwth Cymreig
topUn o'r offerynnau hynaf yn hanes, mae yna dystiolaeth archaeolegol sy'n dangos bod offeryn tebyg i'r crwth wedi bodoli 5,000 o flynyddoedd yn 么l yn Mesopotamia a'r Aifft.
Mae'r offeryn hwn wedi bod yn rhan o hanes cerddoriaeth Cymru ers canrifoedd lawer. Blagurodd yn y 14g pan ddefnyddiwyd y crwth yn gyfeiliant i 'Gerdd Dafod' gan barhau yn boblogaidd tan ddiwedd y 16g.
Mae ystod y nodau yn gyfyng ar y crwth gydag ond un wythfed ar gael a rhaid i'r llinynnau oll gael eu canu ar yr un pryd. O ganlyniad mae'r sain sy'n cael ei greu yn unigryw iawn, fel 'dr么n' a all swnio'n rhyfedd i'r glust anghyfarwydd.
Mae nifer o gerddorion sy'n arbenigo ar ganu'r grwth yng Nghymru gan gynnwys Cas Meurig, Robert Evans ac eraill. Yma, mae Cas Meurig yn esbonio ei diddordeb yn yr offeryn:
"Cychwynnais gyda'r ffidil, ond roedd gen i wastad ddiddordeb yn ei hanes yng Nghymru ac felly y darganfyddais y crwth. Mi wnes i gyfarfod Bob Evans sy'n chwarae'r crwth ac roeddwn yn hoffi'r s诺n. Mae o'n gwneud s诺n dr么n ac yn creu harmoni sy'n gyffrous a chyfoethog. Mae'n edrych yn ddigon tebyg i'r ffidil ond mae'n fwy fel 'hyrdi-gyrdi' neu'r pibau efallai."
"Felly ges i grefftwr i greu crwth i mi ac wrth fwrw ati, sylweddolais fod yna lawer o bosibiliadau. Mae'r offeryn mor ddifyr o ran 'repertoire' wrth greu alawon newydd neu addasu llawysgrifau traddodiadol Cymreig."
"Mae'n gofyn am gryn dipyn o addasu o'r gerdd draddodiadol. Mae gan ffidil dri wythawd o nodau, ond dim ond un wythawd sydd i'r crwth, ond bod ganddo'r dr么n. Felly mae'n cyfyngu'r posibiliadau o gyweirnodau a chordiau gwahanol ac mae'n rhaid creu rhyw gord neu rythm newydd."
"Dwi'n ei weld fel offeryn modern. Mae offerynnau gwerin traddodiadol fel y ffidil neu'r ffliwt yn dod o'r cyfnod Baroque ac yn ddigon hawdd gwrando arnynt. Ond mae'r crwth yn fwy canoloesol ac yn gofyn am fath gwahanol o wrando, sy'n apelio at chwaeth gwahanol, mwy modern.
"Wrth wrando ar Radio 1 byddwch yn clywed synau nad yw'n hawdd gwrando arnynt, sy'n naturiol i'r crwth!"
Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar 成人快手 Lleol.