Cofio Aberfan
topYr Arglwydd Elystan-Morgan a'i atgofion personol o drychineb Aberfan, y golygfeydd torcalonnus yn y pentref ac 'ansensitifrwydd' Llywodraeth y dydd.
Mae gan yr Arglwydd Elystan-Morgan atgofion byw iawn o'r diwrnod pan lithrodd tomen anferth o lo i lawr ochr mynydd Merthyr gan ddinistrio Ysgol Gynradd Pantglas yn y pentref. Lladdwyd 144 o bobl, 116 o'r rheiny yn blant rhwng saith a deg mlwydd oed.
Cyffyrddwyd 芒 chalonnau pawb o bell ac agos wedi clywed y newyddion, ac yn y cyfnod yn dilyn Hydref 21, 1966 fe lansiodd Maer Merthyr Tudful Gronfa Trychineb Aberfan. Daeth cyfraniadau i mewn o bob cwr o'r byd ac erbyn mis Ionawr 1967 roedd swm mawr o arian yn y gronfa gyda'r bwriad o'i ddefnyddio i helpu'r pentrefwyr a'r rhai a gollodd blant ac anwyliaid. Yn ogystal, talwyd am gofeb, neuadd gymunedol a gwyliau i'r pentrefwyr.
Llywodraeth yn "ansensitif"
Yn Awst 1968, mynnodd Llywodraeth Lafur Harold Wilson fod ymddiriedolwyr Cronfa Aberfan yn defnyddio cyfran o'r arian a godwyd i gyfrannu tuag at y gost o symud tomen lo y Bwrdd Glo Cenedlaethol o uwchben pentref Aberfan. Gweithred gwbl "ansensitif" a "chywilyddus" yn 么l yr Arglwydd Elystan-Morgan.
Anghofia i fyth o'r hyn weles i. Maen nhw yn ddarluniau anghofia i fyth, taswn i fyw nes fy mod yn gant oed.
"Fe ddangoswyd ansensitifrwydd y Llywodraeth yn y cyfnod wedi Hydref 21 pan oedden nhw eisiau defnyddio swm o'r arian o'r gronfa. Wnaethon nhw ymddwyn yn gywilyddus. Roedd hynny yn un o'r pethau mwyaf ynfyd a wnaeth y Llywodraeth.
Un o atgofion cliriaf yr Arglwydd Elystan-Morgan o'r cyfnod yw clywed am y drychineb ar y radio ar fore Gwener, Hydref 21, 1966."
"Roedd hi tua chanol y bore. Roedd rhywun yn meddwl yn syth bod na rai plant wedi cael eu lladd, ond doedd neb yn sylweddoli scale y peth i ddechrau, oedd na ddim amgyffred o faint y drasiedi," meddai.
Gwirfoddoli
"R'on i digwydd bod yn teithio i lawr i Gaerdydd y noson honno ar gyfer ffilmio rhyw raglen gyda'r 成人快手. Cafodd y rhaglen honno ei chanslo wedyn, ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd. Roedd na ap锚l i bobl fynd i Aberfan i helpu, ac mi wnes i ymateb i hynny, roedd gen i ddillad pysgota yn digwydd bod yn y b诺t - wellingtons a hen ddillad.
"Rwy'n cofio bod na bobol o bob math yna, Saeson rhonc oedd 芒 dim cysylltiad 芒'r lle. Gl枚wyr oedd yna yn fwy na dim. Llawer ohonyn nhw yn dadau i'r plant a fu farw ond roedden nhw yn gweithio a gweithio, fel pobl mewn trance. Roedden ni i gyd yn gweithio chwarter awr, yna off am ddeg munud. Jyst yn rhawio pethau ma's o'r ffordd. Cymerodd hi wythnosau iddyn nhw i glirio popeth."
Tribiwnlys
Codwyd nifer o gwestiynau wedi'r drychineb erchyll, ac i gael atebion i rai o'r cwestiynau hynny fe benododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Cledwyn Hughes, dribiwnlys i ymchwilio i mewn i'r achosion a'r amgylchiadau. Cadeirydd yr ymchwiliad oedd Syr Herbert Edmund Davies, bargyfreithwr gyda llawer o brofiad mewn Cyfraith Cloddio Glo.
"Apwyntiwyd tribiwnal ac roedd y t卯m yn alluog dros ben. Roedd yr ymholiad hwn yn fodel o beth ddylai ymholiad o'r fath fod. Daeth y gwirionedd allan yn glir ac yn hyll," meddai Yr Arglwydd Elystan-Morgan.
Daeth i'r amlwg yn ystod yr achos fod yna bryderon wedi bod yn lleol dros ddiogelwch y domen a bod gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ddim polis茂au mewn lle ar gyfer tomenni glo o'r fath.
"Mi glywais lawer am yr ymchwiliad gan ffrind i mi oedd yn rhan o'r peth, flynyddoedd wedyn. Yr hyn sy'n sefyll allan ydy pa mor gyndyn oedd y Bwrdd Glo i gydnabod y ffeithiau. Roedd eu hymddygiad yn ofnadwy. Roedd Robens [Yr Arglwydd Robens, Cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ar y pryd] yn esgus eu bod nhw ddim yn gwybod am y peryg, ond roedd llifiadau fel hyn wedi digwydd cyn hynny. Doedd dim angen bod yn geologist na dim byd fel na, dim ond i chi wybod hanes de Cymru yn y cyfnod, bod tipiadau fel hyn yn rhedeg, does dim gobaith da neb sy'n dod yn eu ffordd - maen nhw'n mynd i ladd. A doedd dim esgus i'r Bwrdd Glo ddweud nad oedden nhw yn gwybod hyn, roedd yn agwedd hollol sinigaidd."
Atgof arall sydd wedi aros gyda'r Arglwydd Elystan-Morgan yw'r olygfa yn Nh欧'r Cyffredin ar y dydd Llun canlynol pan adroddodd Cledwyn Hughes, Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r T欧.
Rwy'n cofio Quentin Hogg, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, yn codi ar ei draed 芒'r dagrau'n llifo ar ei ruddiau yn methu dweud dim.
"Cof llachar sy' gen i yw y dydd Llun canlynol yn Nh欧'r Cyffredin. R'on i'n Aelod Seneddol Llafur yng Ngheredigion ar y pryd, roedd hi'n anodd amgyffred y peth. Rwy'n cofio Quentin Hogg, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, yn codi ar ei draed 芒'r dagrau'n llifo ar ei ruddiau yn methu dweud dim. Yn gymdeithasol, doedd ganddo fe ddim byd yn ymwneud 芒'r plant bach yn Aberfan ond roedd y trasiedi yn dod 芒 phawb at ei gilydd.
Dysgu gwersi
Dysgwyd amryw o wersi wedi'r drychineb hon, gan bod arswyd y digwyddiad wedi ei serio ar gof a chydwybod pobl.
"Os nad yn uniongyrchol, ond yn bendant ysgogodd y digwyddiad hwn i osod i fyny yr hyn a elwir yn 'Tip Clearance' - ffurf o wariant cyhoeddus a gafodd ei groesawu oedd hwn. Roedd hyn yn galluogi i harddu br枚ydd oedd yn hyll o ganlyniad i gau y pyllau glo a hefyd yn creu llefydd diwydiannol gyda ffatr茂oedd yn creu gwaith a oedd angen ar 么l cau y pyllau glo yng nghymoedd y de.
"Anghofia i fyth yr olwg ar wynebau'r rhai oedd wedi colli eu plant ar y diwrnod hwnnw - wedi'r cyfan roedden nhw wedi colli eu plant yn y lle oedd disgwyl iddyn nhw fod yn fwyaf saff - yn yr ysgol."
Atgofion Yr Arglwydd Elystan-Morgan. Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2006 ar gyfer gwefan 成人快手 Lleol i Mi - ddeugain mlynedd wedi thrychineb Aberfan.