成人快手

Hanes Caergybi a'r cylch

top
Porthladd Caergybi

Beth wyddoch chi am seintiau a phlastai'r ardal yma? Dyma hanes Caergybi a'r cylch, ardal papur bro Y Rhwyd, yng nghwmni'r Parch Edgar Jones, Llanfachraeth.

Mae porthladd Caergybi yn taflu ei gysgod dros y cylch, ac wedi gwneud hynny am ganrifoedd, oherwydd dyma'r fynedfa i Iwerddon. Erbyn hyn mae tair ffordd, fel tair gwyth茂en yn llifo trwy'r fro, gan gysylltu Caergybi a Llundain, sef yr hen L么n Bost, A5 Telford a'r A55 newydd.

Bu datblygiadau mawr yn y fro yn yr ugeinfed ganrif. Achosodd bygythiad ail ryfel byd i Wersyll Llu Awyr Fali gael ei adeiladu. Yng nghanol y chwedegau dechreuwyd adeiladu Atomfa'r Wylfa ger Cemaes ac ar ddiwedd y chwedegau, Aliwminiwm M么n ger Caergybi. Llifodd gweithwyr o bob rhan o Brydain i'r fro yn ystod y blynyddoedd hynny.

Yn ddiweddar daeth llifiad arall o bensiynwyr i ymddeol i bentrefi glan y m么r, fel Rhosneigr a Threarddur. O ganlyniad mae llai yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ond y dysgwyr yn cynyddu.

Mae'r meini hir a'r cromlechi yn brawf bod brodorion yn y fro yn gynnar iawn yn natblygiad ein gwreiddiad. Mae'r darganfyddiadau ym 'Medd Branwen' ar lan yr afon Alaw ac yn y gladdfa 'Barclodiad y Gawres' ger Aberffraw yn dangos dylanwad Iwerddon ar y fro.

Dyma gadarnle'r Derwyddon ac wrth adeiladu rhedfa i'r awyrennau yng Ngwersyll y Llu Awyr darganfyddwyd arfau yn Llyn Cerrig Bach. Aberthwyd hwy i dduw'r llyn ddwy fil o flynyddoedd yn 么l.

Drwy'r blynyddoedd bu sawl un enwog yn lletya yn nhref Caergybi wrth aros am dywydd teg i hwylio i Ddulyn. Mae Dean Swift yn ei ddyddlyfr yn cwyno'n arw am y bwyd a'r cwrw gwael a gafodd ac am y gwely nad oedd yn rhy l芒n.

Ni wnaeth John Wesley gwyno ond defnyddio'r amser drwy fynd allan i'r stryd i bregethu. Clywodd William Morris, un o Forrisiad M么n ef ac mewn llythyr mae'n ei wawdio.

Ymwelodd Si么r IV 芒'r dref ar ei daith i Iwerddon a thra'n angori clywodd am farwolaeth ei wraig, Caroline o Frunswick. Nid oedd y ddau yn ffrindiau a mawr fu'r llawenhau ar fwrdd y llong y noson honno. I goffau'r ymweliad codwyd bwa sydd i'w weld wrth adael yr harbwr. Copi yw o'r 'Marble Arch' yn Llundain. Addas iawn gan fod yr A5 yn cychwyn wrth y bwa yn Llundain ac yn cyrraedd pen ei thaith wrth y bwa yng Nghaergybi.

Seintiau'r fro

Mae digon o Seintiau yn y fro. Eglwys Cybi Sant yw'r fwyaf ei maint a'i hurddas. Adeiladwyd hi o fewn y Gaer Rufeinig. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid daeth yn eiddo Maelgwn Gwynedd ac yntau yn ei chyflwyno i'w gefnder Cybi.

Yn Llantrisant mae tri Sant, Sannan gwas Dewi Sant, Ieuan gwas Padrig ac Afran na wyddom fawr amdano. Bu'n rhaid i Ieuan ffoi o Iwerddon ar slaben o garreg ac i dorri ei syched trawodd y ddaear lle ymddangosodd ffynnon. Cred rhai mai duw yr Afon Gafran yw Afran ac iddo gael ei fabwysiadu yn Gristion gan yr Eglwys Geltaidd fel y gwnaed gyda choed yw y Derwyddon a'u cofleidio'n goed y Saint.

Yn Llanbabo mae'r Sant yn frenin; ' Pabo Post Prydain'. Yn ei eglwys ef gwelir ei garreg-fedd-allor a ddarganfuwyd gan y clochydd yn y ddeunawfed ganrif wrth iddo agor bedd. Roedd yn sicr wedi ei lluchio o'r eglwys yng nghyfnod y Diwygiad Protestanaidd.

Eglwys Figel Sant yw'r hynotaf o'r cyfan, ni newidiwyd dim ar ei chynllun ers canrifoedd. Pan briododd William Morris (Morrisiaid M么n) ag Aeres Stad Llanfigael ef oedd y sgwier. Mae set y sgwier yno o hyd ynghyd 芒 seti bocs clyd y ffermwyr a'u teuluoedd.

Meinciau di-gefn sydd i'r gweision a'r morynion, ac wrth y drws gwagle i'r tlodion sefyll. Mae'r pulpud yn y canol a bwrdd yr allor a'i dalcen yn erbyn y mur. Mae'r dyddiad 1547 ar y cwpan cymun a 1642 ar y gloch. Dyma'r gloch a glywodd tad Gweirydd ap Rhys yn cnulio un noson dywyll wrth iddo gerdded heibio'r fynwent a neb llai na'r Diafol yn tynnu'r rhaff meddai ef.


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld 芒'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd n么l i'w gwaith.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.