成人快手

Yr Wyddgrug

top
Moel Famau

Bro sy'n enwog am ei llenorion yw'r ardal hon o Sir y Fflint. Bro Daniel Owen, dyma gyfle i ddod i adnabod mwy am hanes yr Wyddgrug.

Cynefin Daniel Owen

Daniel Owen
Daniel Owen

Y mae'r hen weithdy teiliwr yn Yr Wyddgrug, lle bu'r awdur, Daniel Owen, yn brysur bwytho, yn awr yn d欧 tafarn. Ac enw'r t欧 tafarn hwnnw yn ein hatgoffa o'r geiriau y bu'r llenor yn eu pwytho yn straeon a nofelau, Y Pentan.

Ganwyd Daniel Owen ym Maes-y-dref yn 1836 ac er bod y t欧 hwnnw wedi ei chwalu y mae carreg goffa gerllaw. Yn wir, mae'r Wyddgrug yn gwneud dipyn o'r ffaith fod Daniel yn un o feibion y dref ac y mae yno nid yn unig Ganolfan Daniel Owen ond hefyd gofgolofn iddo gyda'i lyfr yn ei law. Y mae yma hefyd Gymdeithas Wil Bryan sy'n cyfarfod yn rheolaidd.

Cartref arall a chwalwyd - i wneud lle i siop Tesco newydd - ydoedd un y bardd a'r gweinidog John Blackwell a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn 1823.

Brodor enwocach na'r ddau ohonyn nhw y tu allan i Gymru ydoedd yr arlunydd o'r ddeunawfed ganrif, Richard Wilson, a fu farw ym mhlasty Colomendu gerllaw ac a gladdwyd ger y fynedfa i'r eglwys ysblennydd ym mhen uchaf y dref.

Ysbryd y Dref

Stryd Fawr yr Wyddgrug
Stryd Fawr yr Wyddgrug

Yn fwy diweddar, yr oedd y bardd o'r Unol Daleithiau, Denise Leverton, prif ladmerydd y llenorion hynny a wrthwynebai ymyrraeth America yn Fietnam yn y chwedegau, yn ymhyfrydu yn y ffaith ei bod hi yn perthyn o ochr ei mam i Angel Jones o'r Wyddgrug.

Cafodd y papur bro lleol, Papur Fama ei enw oddi wrth Foel Famau y gellir ei ddringo oddi ar y ffordd sy'n arwain i Rhuthun. Ar y copa y mae olion t诺r a godwyd yn 1810 i ddathlu hanner canrif teyrnasiad y trydydd George. Ond o lawer mwy o ddiddordeb nac olion y t诺r anorffenedig hwn yw'r olygfa odidog o harddwch Dyffryn Clwyd ar daen gyda hyd yn oed Yr Wyddfa a Chader Idris i'w gweld ar ddiwrnod clir.

Tref marchnad ddigon prysur yw'r Wyddgrug gydag olion hen gaer ym mhen pellaf y stryd fawr. Hi yw'r dref sirol hefyd - Sir Y Fflint yn awr, Sir Clwyd cyn hynny - a Sir Y Fflint cyn hynny, hefyd.

Dywed sawl un iddyn nhw weld ysbryd yn croesi'r ffordd sy'n arwain o'r dref tuag at Gaergwrle a Wrecsam. Mae'r straeon i gyd rywbeth yn debyg am yrwyr yn gorfod stopio ar frys er mwyn osgoi taro merch oedd yn croesi'r ffordd o'u blaenau - ond neb byth i'w weld wedi iddyn nhw stopio'r car a mynd allan i edrych o gwmpas.

Yn Llanarmon yn I芒l gerllaw y mae beddrod Gruffydd ap Llywelyn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.


成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.