Dirgelion Dinbych
topCestyll, chwedlau ac enwogion llenyddol - dyna rai o hynodion Dinbych a'r cyffiniau sydd dan sylw yn yr arweiniad hwn i hanes y fro.
Beth sydd mewn enw?
Mae tref Dinbych yn cael ei henwi yn Neddf Uno 1536 ond roedd yn dref bwysig am ganrifoedd cyn hynny. Mae'r enw yn gyfuniad o'r geiriau 'Din' sy'n golygu caer a 'bych' yn golygu bach.
Ond mae'n bosib fod y dref wedi derbyn ei henw drwy ddull arall. Yn 么l un chwedl roedd draig yn byw yng nghysgod castell Dinbych ac yn aml yn crwydro strydoedd y dref. Un diwrnod penderfynodd Si么n Bodiau grwydro'r dref ar gefn y ddraig. Roedd gan Si么n bedwar bawd, dau ar bob llaw. Tra roedd y ddraig yn edrych arnynt cafodd Si么n gyfle i'w ladd. Rhedodd o'r castell gan weiddi "Dim Bych, Dim Bych". A dyma yn 么l y chwedl sut y derbyniodd y dref ei henw.
Castell Dinbych
Y castell wrth gwrs yw un o brif atyniadau Dinbych. Un o gestyll Edward 1 ydyw ac fe'i adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gan un o brif swyddogion y brenin, Henry de Lacy. Roedd yn safle pwysig gan ei fod wedi ei adeiladu ar dir Dafydd ap Gruffudd ac felly yn pwysleisio grym Lloegr dros Gymru.
Dechreuwyd ar yr adeiladu wedi i Edward I drechu Llywelyn Ein Llyw Olaf mewn brwydr yn 1282. Yn ogystal 芒'r castell fe ffurfiwyd bwrdeistref Seisnig newydd o fewn waliau'r dref.
Yn 1294 tarfwyd ar yr adeiladu pan gipiwyd y castell gan griw o Gymry. Mae'r gwaith adeiladu a wnaed wedyn yn wahanol i'r gwaith a gafodd ei wneud yn gynharach. Yn ystod ail ran yr adeiladu defnyddiwyd carreg wahanol a ffurfiwyd tyrrau uchel fel sydd yng nghastell Caernarfon.
Yn gwarchod y castell roedd muriau'r dref ac mae rhannau o'r muriau yn dal i sefyll heddiw. Ond mae'n rhaid cael allwedd o lyfrgell Dinbych neu gan Geidwad y Castell, pan fydd ar ddyletswydd, i grwydro'r waliau.
Yr Iarll Amhoblogaidd
Yn ystod y daith gwelir nifer o adeiladau ac adfeilion hanesyddol. Un ohonynt yw gweddillion Eglwys Iarll Caerl欧r. Dechreuwyd adeiladu'r eglwys ym 1578 gyda'r bwriad o greu eglwys Brotestannaidd i ddisodli Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
Ond ni chafodd ei chwblhau gan i'r dasg o godi arian fethu oherwydd amhoblogrwydd yr iarll. Gwariwyd yr arian a godwyd ar ymgyrch filwrol yn Iwerddon. Roedd y bobol leol yn gwrthwynebu'r adeilad ac yn dymchwel y gwaith yn aml.
Hefyd dylid sylwi ar Borth y Bwrdeisiaid sydd i'w weld wrth i chi grwydro'r bryn tua'r castell. Mae hwn yn rhan o'r gaer a adeiladwyd gan Henry de Lacy i amddiffyn Dinbych yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Diddorol iawn yw'r gofeb sydd yng nghanol tref Dinbych i'r meddyg o'r ddeunawfed ganrif a ddaeth i enwogrwydd adeg helynt y colera yn y 1830au. Y meddyg Evan Pierce a gododd y gofgolofn iddo ef ei hun a hynny tua ugain mlynedd cyn iddo farw. Roedd yn byw mewn plasdy gyferbyn ac felly'n gallu gweld y gofgolofn o'i ffenest bob dydd.
Cymeriadau'r gorffennol
Wrth droi wedyn i lawr Stryd y Dyffryn gellir gweld lle roedd hen abaty'r Brodyr Gwyn. Diddymwyd hwn yn 1534 ond parhaodd fel ysgubor, bragdy ac ystordy gwl芒n. Ond fe'i ddifrodwyd yn sylweddol gan d芒n yn 1898.
Mae nifer o adeiladau hynafol y tu allan i'r dref yn ogystal. Un o'r rhain yw eglwys Llanfarchell, neu'r Eglwys Wen ar lafar, sydd ar gyrion Dinbych. Dyma eglwys y plwyf. Mae'n adeilad hardd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac ymhlith yr enwogion lleol sydd wedi eu claddu yno mae Twm o'r Nant. Mae cofeb i Humphrey Llwyd yma hefyd.
Eglwys arall yw Egwlys Dyfnog Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Fe saif tua thair milltir o Ddinbych i gyfeiriad Rhuthun ym mhentref Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Ynddi gellir gweld ffenestr "Coeden Jesse" a gafodd ei chreu yn 1533. Yn ystod y Rhyfel Cartref cafodd ei chuddio mewn cist fawr sydd yn awr dan y ffenest. Mae crochendy yn y pentref hefyd a arferai fod yn efail.
Safle arall o ddiddordeb yw Llys Gwenllian. Tomen sydd yma erbyn hyn ac mae i'w gweld ar y dde ar y ffordd o Ddinbych i Brion. Bu'r llys unwaith yn gartref i ferch Llywelyn, Gwenllian de Lacy. Gwylltiodd y ffordd y cafodd ei hyst芒d hi ei rhannu gan y Goron y Tywysog Dafydd ap Gruffudd a bu'n rhannol gyfrifol am wrthryfel 1282.
Yn ogystal 芒 bod yn llecyn o ddiddordeb hanesyddol gall Dinbych ymfalch茂o hefyd yn yr enwogion hynny, yn feirdd, llenorion ac actorion sydd wedi eu magu yn yr ardal.
Enwogion Dinbych
Un o'r rhain yw Iolo Goch, bardd 芒'i gartref yn Llechryd. Mae ei ganu'n rhoi golwg ddiddorol ar fywyd yn Sir Ddinbych yn y Canol Oesoedd ac ef oedd un o'r beirdd cyntaf i ganu mawl ar fesur y cywydd.
Ffigwr pwysig arall yw Twm o'r Nant, anterliwtiwr a anwyd yn Llannefydd, Dinbych ac a fagwyd yn Henllan. Mae'r ysgol gynradd yn Ninbych wedi ei henwi ar ei 么l.
Llenor arall o'r ardal yw E. Tegla Davies. Cafodd ei eni yn Llandegla-yn-I芒l yn fab i chwarelwr. Mae'n enwog am ei unig nofel hir sef G诺r Pen y Bryn sy'n disgrifio troedigaeth ffermwr yn ystod Rhyfel y Degwm.
Enw arall y cysylltir ef 芒 Dinbych yw enw Thomas Gee, cyhoeddwr a golygydd. Ganwyd ef yn Ninbych yn 1815. Ef oedd yn gyfrifol am Wasg Gee a dyfodd yn un o weisg enwocaf Cymru lle cyhoeddwyd Baner ac Amserau Cymru, papur Rhyddfrydol a Radical. Dadleuai Gee dros ehangu'r bleidlais a thros ddatgysylltu'r eglwys yng Nghymru.
Y Thomas arall
Thomas enwog arall o'r dref yw Thomas Gwynn Jones, bardd, llenor a newyddiadurwr. Fe'i ganwyd ym Metws-yn-Rhos, Dinbych. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902 am ei awdl Ymadawiad Arthur, sy'n gerdd arloesol oherwydd ei mesur. ac enillodd y Gadair eto yn 1909 gyda Gwlad y Bryniau.
Dau fardd arall fu'n byw yma am gyfnod yw Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Dyma ddau o Ddyffryn Nantlle. Adwaenir Gwilym R. Jones fel bardd praff, nofelydd a golygydd y Faner. Ef oedd yr unig un i ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Symudodd Mathonwy Hughes yma o Lanllyfni ac roedd yntau'n fardd a golygydd.
Un arall a symudodd yma o Ddyffryn Nantlle yw Kate Roberts, nofelydd a brenhines y stori fer Gymraeg. Symudodd i Ddinbych yn 1935 wedi iddi hi a'i g诺r, Morris T. Williams, brynu Gwasg Gee.
Ond nid beirdd a llenorion yw'r unig enwogion sydd wedi bod yn byw yn Ninbych. Rhaid cofio am Henry Moreton Stanley a ddechreuodd ei fywyd fel John Rowlands, bachgen y wyrcws cyn dod i enwogrwydd fel y dyn wnaeth ddod o hyd i Dr David Livingstone. Hefyd, cofiwn am y diweddar Orig Williams brodor o'r ardal a ddaeth i enwogrwydd fel reslar dan yr enw El Bandito. Ganwyd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn y dref a Phillip Hughes, actor dawnus sydd wedi ymddangos yn Pobol y Cwm.