Hanes Dyffryn Tywi
topParhad o hanes Dyffryn Tywi.
Mae nifer o hanesion diddorol y tu 么l i enwau strydoedd Caerfyrddin. Cafodd Heol Awst ei henwi ar 么l G诺yl Calan Awst a gynhaliwyd yn flynyddol ar Awst 1af.
Ar y diwrnod hwn arferid caniat谩u i bawb fynd 芒'u hanifeiliaid i bori ar gaeau'r dref am y dydd. Mae lled y stryd yma yn atgoffa rhywun o'r dyddiau hynny pan arferid cynnal ffeiriau gwartheg a cheffylau yma.
Ganrifoedd yn 么l safai Croes Bregethu yn Heol Awst. Wrth y groes hon y byddai'r mynachod yn pregethu. Heddiw cofeb i'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sydd ar y safle. Adeiladwyd y gofeb ar 么l Rhyfel y Crimea.
Yn Heol Awst hefyd mae'r capel cyntaf i'w adeiladu yng Nghaerfyrddin. Dyma Gapel Heol Awst, capel yr annibynwyr a adeiladwyd ym 1726. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o 1826.
Stryd arall yw'r Porth Tywyll sydd wedi ei enwi ar 么l y porth a arferai sefyll ym mhen y stryd yn y Canol Oesoedd. Roedd y porth hefyd yn cael ei alw'n Borth Wynveth gan fod nant o'r un enw yn llifo heibio iddo hyd at 1796.
Heol Las a Heol Goch
Mae enwau Heol Las a Heol Goch yn cyfeirio at ddwy blaid wleidyddol oedd yn bodoli yn y ddeunawfed ganrif sef y Cochion (Tor茂aid) a'r Gleision (Chwigiaid). Roedd cystadleuaeth frwd rhwng y ddwy blaid adeg etholiad ac weithiau arweiniai hyn at derfysg hyd yn oed.
Calon y dref yw'r sgw芒r ac adeilad hynafol Neuadd y Dref. Oddi yma y cyhoeddwyd canlyniad etholiad 1966, pan enillodd Gwynfor Evans sedd Caerfyrddin gan greu trobwynt yng ngwleidyddiaeth Cymru a hanes Plaid Cymru.
Roedd yr hen enw Cymraeg ar sgw芒r Caerfyrddin sef Cl么s Mawr yn cyfeirio'n wreiddiol at y rhan lle'r arferid cynnal y farchnad gig hyd nes yr agorwyd marchnad newydd ym 1800.
Yng nghanol y sgw芒r mae Neuadd y Dref. Adeiladwyd y neuadd bresennol ym 1777 ar safle adeilad o'r Canol Oesoedd ac Oes Elisabeth. Mae achosion Llys y Goron yn cael eu cynnal yma o hyd. Yng nghefn yr adeilad mae carreg goffa wedi ei gosod er cof am Brinley Richards, cerddor a chyfansoddwr a gafodd ei eni mewn ty cyfagos.
Y tu 么l i Neuadd y Dref mae Maes Nott. Mae'r stryd wedi ei henwi ar 么l y Cadfridog Nott, milwr enwocaf Caerfyrddin a fu'n ymladd yn y rhyfeloedd yn Afghanistan. Heddiw saif cerflun ohono yng nghanol y stryd. Ym Maes Nott y sefydlwyd marchnad gyntaf Caerfyrddin. Erbyn 1240 roedd yma eglwys sef Eglwys y Santes Fair yn ogystal 芒 chroes y farchnad. Roedd y farchnad yn cael ei chynnal yn wythnosol.
Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd caewyd yr eglwys ond parhaodd croes y farchnad yma hyd 1783. Erbyn y 18fed ganrif roedd y brif farchnad yn cael ei chynnal yn y Clos Mawr a'r farchnad bysgod yn dal i gael ei chynnal ym Maes Nott. Felly tynnwyd croes y farchnad y lawr ac adeiladwyd marchnad dan do yma.
Erbyn dechrau'r 19eg ganrif wedyn roedd marchnad llawer mwy wedi ei hadeiladu yn Heol Goch ac mae'n dal i gael ei chynnal yma heddiw. Ym 1846 dymchwelwyd marchnad Maes Nott a gosodwyd y cerflun ar y safle. Heddiw mae olion yr eglwys a'r groes a safai yma ers talwm i'w gweld yn amgueddfa Caerfyrddin.
Ym maes Nott hefyd mae carreg i goff谩u'r Esgob Ferrer. Cafodd yr esgob, oedd yn Brotestant, ei losgi ar y safle ym 1535. O ganlyniad ef oedd un o'r merthyron Protestannaidd cyntaf yn nheyrnasiad Mari.
Castell Caerfyrddin
Ym Maes Nott gellir gweld olion hen gastell Caerfyrddin. Adeiladwyd y castell yng nghyfnod Harri'r I. Meddiannwyd y castell droeon gan y Cymry a bu ymosodiadau yma gan rai o dywysogion pwysicaf Cymru, yn eu mysg Rhys ap Gruffydd, Llywelyn ap Iorwerth a Rhys ap Maredydd. Ar ddechrau'r 15fed ganrif llwyddodd Owain Glynd诺r i'w feddiannu am gyfnod. Adeiladwyd porth y castell ddechrau'r 15fed ganrif ar 么l gwrthryfel Glynd诺r.
Gerllaw gweddillion y castell, yn sefyll yn urddasol uwchben afon Tywi, mae Neuadd y Sir. Dyma adeilad trawiadol sy'n croesawu pob teithiwr a ddaw i Gaerfyrddin o gyfeiriad y de a'r gorllewin.
Ers talwm carchar oedd yma. Adeiladwyd y carchar hwnnw gan bensaer ifanc o'r enw John Nash oedd yn byw yng Nghaerfyrddin ar y pryd. Gorffennwyd adeiladu'r carchar ym 1792 ar safle'r hen gastell gan nad oedd defnydd i'r castell mwyach. Ond cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym 1938 er mwyn adeiladu Neuadd y Sir a daeth miloedd o bobol yma i weld y crogi olaf y tu allan i furiau'r carchar.
Brodyr Llwydion
Adeilad arall yn y dref ag iddo hanes diddorol yw archfarchnad Tesco. Mae'r archfarchnad wedi ei adeiladu ar safle eglwys y Brodyr Llwydion. Nid oes unrhyw olion o'r eglwys i'w gweld yma heddiw ond mae murluniau diddorol i'w gweld ar furiau Tesco sy'n adrodd yr hanes. Yn ogystal daeth archeolegwyr o hyd i nifer o eitemau diddorol wrth gloddio ar y safle.
>Roedd y Brodyr Llwydion yn boblogaidd ymysg trigolion Caerfyrddin yn eu cyfnod. Diddymwyd y fynachlog yng nghyfnod Harri'r VIII fel rhan o'r Diwygiad Protestannaidd. Mae'r ganolfan siopa a adeiladwyd yn ddiweddar ar y safle rhwng siop Tesco a Heol Awst wedi ei henwi ar 么l y Brodyr Llwyd.
Wrth gerdded i lawr y bryn o Tesco a Neuadd y Sir deuwn at afon Tywi a phont Caerfyrddin sydd yn ei chroesi. Adeiladwyd y bont rhwng 1936-8 i gymryd lle'r hen bont saith bwa oedd wedi sefyll yma am saith canrif. Mae nifer yn dal i ddefnyddio'r afon ar gyfer pysgota o goryglau a gellir eu gweld yma yn ystod misoedd yr haf.
Ar lannau'r afon mae safle'r hen Gei. Bu'r Cei yn galon gweithgaredd masnachol ar un cyfnod ac arferai llu o longau angori yma adeg llanw mawr. Bu cynnydd yng ngweithgarwch porthladd Caerfyrddin rhwng y 16eg a'r 19eg ganrif.
Yn niwedd y 18fed ganrif roedd masnach deirgwaith mwy yma nac ym mhorthladd Caerdydd hyd yn oed. Yn 1852 ymestynnwyd y rheilffordd o Abertawe i Gaerfyrddin ac yn raddol dirywio wnaeth dylanwad y porthladd. Ond er gwaetha'r gystadleuaeth oddi wrth y rheilffordd, parhaodd y masnachu rhwng Caerfyrddin ac Iwerddon a De Orllewin Lloegr tan ddiwedd y 19eg ganrif.
Ni ellir gadael Caerfyrddin heb s么n am Goleg y Drindod a Mart Caerfyrddin. Mae Coleg y Drindod fry ar y bryn uwchben y dref. Cafodd ei sefydlu ym 1858 yn goleg hyfforddi athrawon ond erbyn heddiw mae'n cynnwys amrywiaeth o gyrsiau gradd dwyieithog. Ar safle'r coleg mae Theatr Halliwell.
Mae'r mart ar y llaw arall ar gyrion y dref ar y ffordd i Sancl锚r. Yma ar ddiwrnodau marchnad bydd trigolion y wlad a'r dref yn cyfarfod . Roedd y farchnad yn bwysig yn ystod y Canol Oesoedd hefyd gan fod llawer o drigolion y dref bryd hynny yn ffermwyr yn ogystal 芒 masnachwyr a chrefftwyr.