Hanes Dyffryn Tywi
topParhad o hanes Dyffryn Tywi.
Mae yna nifer o bentrefi yn ogystal 芒 thref Caerfyrddin yn nyffryn Tywi, dylid s么n amdanynt. Yn ymestyn o Gynwyl Elfed a Bronwydd i'r gogledd o Gaerfyrddin tuag at Lansteffan a Glanyfferi i'r de.
Bronwydd
Ym Mronwydd yng ngogledd y fro mae Rheilffordd Gwili. Adeiladwyd y rheilffordd yn 1977 ond mae'n perthyn i gyfnod cynharach na hynny mewn gwirionedd.
Mae'r rheilffordd yn rhan o'r lein a arferai redeg rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin cyn iddo gael ei gau yn y 1960au er mwyn gwella'r ffyrdd. Mae Rheilffordd Gwili yn rhedeg o Fronwydd tua'r gogledd i Dan y Coed. Wrth deithio ar ei hyd mae'r teithiwr yn cael cyfle i ail fyw cyfnod y trenau st锚m.
Abergwili a Nantgaredig
I'r dwyrain wedyn mae pentrefi Abergwili a Nantgaredig. Yn Abergwili mae Amgueddfa Caerfyrddin sydd wedi ei lleoli yn hen balas Esgob Tyddewi. Cyn dyddiau'r diwygiad roedd yr esgob yn byw mewn palas yn Nhyddewi. Ond ym 1542 symudodd yr Esgob Barlow i'r safle hwn. Cyn hynny roedd yr adeilad yn goleg offeiriaid.
Parhaodd yr adeilad yn gartref i EsgobTyddewi hyd 1974. Wedi hynny cafodd yr adeilad ei droi'n amgueddfa. Yma ceir hanes bywyd gwerin, archeoleg a bywyd gwyllt Caerfyrddin.
Llansteffan
Pentref ar yr arfordir yw Llansteffan, lle prydferth iawn gyda'r castell yn sefyll fry ar y graig a'r traeth euraidd islaw. Yma ceir golygfeydd gwych o Fae Caerfyrddin. Yn y pentref mae adeiladau Sioraidd unigryw.
Mae castell Llansteffan yn dyddio o'r Oesoedd Canol. Saif ar fryn bychan ac oddi yma ceir golygfeydd gwych dros aber y Tywi, Taf, Gwendraeth a draw tua Glanyfferi.
Adeiladwyd y castell yn wreiddiol gan y Normaniaid ar safle bryngaer oedd yn dyddio o'r Oes Haearn. Ymosododd y Cymry droeon ar y castell hwn.
Adeiladwyd castell cerrig ar yr un safle yn y 13eg a'r 14eg ganrif. Yr ochr draw i'r castell mae ffynnon sanctaidd o'r canoloesodd, ffynnon Sant Anthony. Dywedir bod d诺r y ffynnon yn gallu iachau a'i fod yn gallu gwireddu dymuniadau.
Glanyfferi
Yr ochr arall i'r d诺r mae Glanyfferi. Fel yr awgryma'r enw roedd yma wasanaeth fferi unwaith ac oddi yma yr arferai ymwelwyr Llansteffan groesi'r d诺r. Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd brenhinoedd a phererinion yn croesi yma ar eu ffordd i Dyddewi.
Yn ddiweddarach daeth Llansteffan yn ganolfan bwysig ar gyfer llongau pleser a chychod glo. Daeth yn le poblogaidd iawn yn ystod y 19eg ganrif a hanner cynta'r 20fed ganrif wedi agor y rheilffordd o Lanelli heibio i Lanyfferi am Gaerfyrddin.
Dechreuodd glowyr pyllau'r Rhondda a'u teuluoedd heidio yma. Roedd yn fodd iddyn nhw ddianc oddi wrth lwch a duwch y pyllau glo i fwynhau'r amgylchedd yma ar lan y m么r. Daeth Llansteffan yn hynod o boblogaidd yn ystod 'Pythefnos y Glowyr'.
Byddai'r ymwelwyr yn dod yma ar y fferi o Lanyfferi neu'n dod ar fws o Gaerfyrddin. Yn ystod mis Awst byddai tyrfa fawr i'w weld yn Heol Awst yn aros am y bws i'w cludo i Lansteffan.
Gan fod cymaint o ymwelwyr yn heidio yma o'r un ardal roedd hi'n arferiad cynnal Eisteddfod yma. Rhwng y castell a'r traeth mae darn o dir a elwir yn sticks. Yno ar y llwyfan yr oedd y cystadlaethau'n cael eu cynnal.
Ond gyda datblygiad y ffyrdd yn yr Ugeinfed ganrif a chynnydd yn y nifer oedd yn berchen ceir, gostwng wnaeth nifer yr ymwelwyr i Lansteffan.
Hyd at y 1930au roedd cychod masnachu bychain yn mewnforio glo i Lansteffan ac yn eu dadlwytho ger y castell. Mewn cyfnodau cynharach roedd llawer o longau hwylio masnachol yn galw yma. Roedd rhai o'r rhain yn masnachu ar draws y byd ac eraill ar hyd arfordir De Cymru, Gogledd Dyfnaint ac Iwerddon.