成人快手

Hanes Caerdydd

top
Stadiwm y Mileniwm

Prifddinas Cymru a chanolfan i lu o sefydliadau cenedlaethol.

Ers 1955, Caerdydd yw prifddinas Cymru. Mae'n nodweddiadol am ei hadeiladau hardd fel y castell a saif yng nghanol y ddinas a'r Ganolfan Ddinesig sy'n cyfuno tri chyfnod o hanes sef cyfnod y Rhufeiniaid, Canoloesol a Fictoraidd.

Mae Caerdydd yn ganolfan weinyddol, wleidyddol, a masnachol bwysig ac yn ganolfan i nifer o fusnesau a'r cyfryngau yng Nghymru. Er mai dinas fodern ydyw mae ei hanes yn ymestyn yn 么l i gyfnod y Rhufeiniaid.

O'r Rhufeiniaid i'r Normaniaid


Mae'n debyg mai'r Rhufeiniaid a adeiladodd yr annedd gyntaf yng Nghaerdydd a hynny yn y ganrif gyntaf O.C. Roedd y safle yn un pwysig yn strategol gan ei fod yn gorwedd ar y brif ffordd rhwng Caerleon a Chaerfyrddin. Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yma yn y man lle saif y castell heddiw.

Wedi'r Rhufeiniaid daeth y Normaniaid yma ac ymgorffori'r hyn oedd yn weddill o gyfnod y Rhufeiniaid yn eu caer Normanaidd hwy. Mae'r castell a saif yng nghanol y ddinas heddiw yn dyddio o gyfnod y Normaniaid.

Castell Caerdydd Adeiladwyd y castell Normanaidd cyntaf ar y safle tua 1091 gan Robert Fitzhamon, Arglwydd Caerl欧r. Castell tomen a beili oedd hwn. Yna yn ystod y 12fed ganrif sylwodd Robert bwysigrwydd amddiffynnol y castell a chryfhaodd y gaer gyda cherrig.

Ym 1306 aeth y castell i ddwylo'r teulu Despenser. Ym 1317 carcharwyd Llywelyn Bren yma wedi iddo gynllwynio gwrthryfel yn erbyn yr arglwyddi Seisnig. Lladdwyd ef yma am deyrnfradwriaeth a chludwyd ei gorff drwy strydoedd y dref.

Yn ystod gwrthryfeloedd Glynd诺r yn nechrau'r 15fed ganrif ymosododd y Cymry ar gastell Caerdydd er mwyn dial am farwolaeth Llywelyn Bren a rhoddodd y Cymry y dref ar d芒n.

Ym 1550 aeth y castell i ddwylo William Herbert, aelod o un o deuluoedd mwyaf grymus Prydain yn y cyfnod. Rhoddodd etifedd olaf y teulu hwnnw, Charlotte Jane, y castell a'r ystad i'w g诺r sef John Stuart a ddaeth yn ddiweddarach yn Iarll Bute.

Cyfnod Bute


Mae i deulu Bute le pwysig yn hanes Caerdydd a chafodd y teulu dylanwadol hwn effaith fawr ar ddatblygiad y ddinas.Trwy fuddsoddiad yr ail Ardalydd Bute datblygodd Caerdydd i fod yn brif borthladd De Cymru. Tyfodd y dref yn sylweddol o ganlyniad i'r porthladd hwn. Yn nechrau'r 19fed ganrif, pentref bychan oedd Caerdydd ond erbyn y 1890au roedd wedi datblygu yn dref ag iddi borthladd pwysig oedd yn allforio glo i bob rhan o'r byd.

Ym 1801 dim ond 1,870 o bobol oedd yn byw yng Nghaerdydd. Roedd hyn yn gyfran fechan iawn o'i gymharu 芒 Merthyr lle roedd 7,700 o bobol yn byw. Ond erbyn 1911 roedd cymaint 芒 183,000 o bobol yn byw yng Nghaerdydd. Mae'r cynnydd yn anhygoel ac yn adlewyrchu'r newid aruthrol yng nghymdeithas y dref wrth i nifer o bobol symud yma o gefn gwlad i chwilio am waith yn ogystal 芒 chyfran fawr o dramorwyr.

Er mai dim ond am 50 mlynedd y bu'r porthladd mewn bri, roedd yn ddigon o amser i sefydlu Caerdydd fel prif ganolfan weinyddol a masnachol Cymru. Hyd yn oed wedi dirywiad y porthladd, parhau i dyfu wnaeth pwysigrwydd Caerdydd ac ym 1955 cafodd ei chydnabod yn swyddogol fel prifddinas Cymru.

Adeiladau trawiadol


Mae nifer o adeiladau trawiadol yng nghanol y ddinas heddiw. Yn eu mysg mae adeiladau'r Ganolfan Ddinesig ym Mharc Cathays. Gwerthodd y teulu Bute y parc i Gorfforaeth y Ddinas yn niwedd y 19eg ganrif ar yr amod mai dim ond adeiladau cyhoeddus oedd i'w hadeiladu yma.

Neuadd y ddinasYn rhan o'r Ganolfan Ddinesig mae'r llysoedd barn, Neuadd y Ddinas a'r Oriel Genedlaethol.

Mae'r Oriel Genedlaethol a sefydlwyd ym 1907 yn cofnodi hanes celf yng Nghymru ers y 16eg ganrif. Hefyd mae'n gasgliad rhyngwladol pwysig o gelfyddyd Brydeinig ac Ewropeaidd ac yn arddangos gweithiau rhai o fawrion y byd celf, gan gynnwys yr Argraffiadwyr. Mae'n cynnwys gweithiau o ddiwylliannau eraill hefyd. Bydd gan y rhai sy'n ymddiddori ym myd celf ddiddordeb yn Neuadd y Ddinas hefyd lle mae cerfluniau marmor i nifer o arwyr Cymru, gan gynnwys Owain Glynd诺r a Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Y tu allan i'r adeilad wedyn mae t诺r y cloc sydd bron i 200 troedfedd o uchder. Hefyd mae'n werth edrych ar y ddraig o blwm sydd ar do siambr y cyngor a'r cerflunwaith sy'n cynrychioli'r m么r yn derbyn afon Hafren a thair afon Caerdydd sef Taf ,El谩i a Rhymni.

Adeiladwyd Neuadd y Ddinas ar droad yr 20fed ganrif. Yn ystod y cyfnod adeiladu derbyniodd Caerdydd statws dinas. Er i'r garreg sylfaen gael ei gosod ym 1901 ar gyfer Neuadd y Dref, agorwyd yr adeilad fel Neuadd y Ddinas ym 1906. Ym Mharc Cathays hefyd mae adeilad Morgannwg, un o adeiladau'r Brifysgol heddiw ond cyn hynny Neuadd y Sir oedd yma.

Ger mynedfa'r hen neuadd mae cerfluniau diddorol. O'r tu blaen maen nhw'n edrych fel ffigurau clasurol ond o'r cefn mae'n amlwg mai ffurfiau o lowyr a morwyr wrth eu gwaith ydynt. Cyfleu y mae hyn y modd y mae cyfoeth a moethusrwydd dinesig Caerdydd wedi eu sylfaenu ar lafur y dosbarth gweithiol yn y cymoedd a'r dociau.

Yng nghanol adeiladau'r Brifysgol mae'r Deml Heddwch. Mae defnyddiau o bob rhan o Gymru wedi cyfrannu at adeiladwaith yr adeilad arbennig hwn. O dan y Deml mae Llyfr Coffa sy'n cynnwys enwau'r Cymry a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers talwm roedd tudalen o'r llyfr yn cael ei throi yn ddyddiol am 11 o'r gloch y bore.

Wrth groesi'r ffordd brysur o Barc Cathays, fe ddeuwn i ganol y ddinas ac at y siopau mawrion yn Heol y Frenhines a Heol Eglwys Fair. Mae dwy ran i Heol Eglwys Fair a gelwir y rhan uchaf yn Stryd Fawr.

Yn y Stryd Fawr yr oedd Neuadd y Dref ers talwm. Banc Lloyds oedd yma wedyn ac roedd cofeb las ar yr adeilad yn nodi mai dyma safle Neuadd y Dref yn yr Oesoedd Canol. Roedd yr adeilad yn y broses o gael ei adfer ond yn anffodus fe fu t芒n yn yr adeilad yn y blynyddoedd diweddar. Ar un cyfnod roedd marchnad yn rhan o Neuadd y Dref. Hon oedd marchnad dan-do gyntaf Caerdydd. Byddai'r farchnad yn cael ei hagor am hanner dydd drwy ganu cloch y ddinas a dim ond trigolion tlotaf y dref a g芒i brynu am yr awr gyntaf.

Yn arwain o Heol Eglwys Fair mae Stryd yr Eglwys, lleoliad Eglwys Ioan Fedyddiwr a adeiladwyd tua 1180. Yma mae cofebau i'r teulu Herbert yn ogystal 芒 ffenestri lliw deniadol.

Eglwys gyntaf Caerdydd


Ond yr eglwys gyntaf i'w hadeiladu yng Nghaerdydd oedd Eglwys Fair. Safai'r eglwys lle roedd Heol Eglwys Fair a Wood Street yn cyfarfod ger yr orsaf drenau. Cafodd yr eglwys ei hadeiladu ym 1100 a'i ehangu ym 1175. Difrodwyd yr eglwys gan Owain Glynd诺r ym 1404 ac wedyn gan lif uchel yr afon Taf ym 1607. Erbyn heddiw tafarn sydd yma sy'n cael ei rhedeg gan gwmni Wetherspoon's. Cyn hynny theatr oedd ar y safle.

Stadiwm y MileniwmGerllaw'r dafarn hon mae Stadiwm y Mileniwm. Cafodd y stadiwm hwn ei adeiladu ar gyfer g锚m derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ym 1999. Penderfynwyd bod angen stadiwm newydd ar gyfer cynnal y g锚m bwysig honno ac felly cafodd y Maes Cenedlaethol, sef Parc yr Arfau, ei ddymchwel ac adeiladwyd Stadiwm y Mileniwm. Cyn hynny roedd y gemau rygbi rhyngwladol i gyd yn cael eu chwarae ar Barc yr Arfau.

Adeiladau eraill sydd o ddiddordeb yng nghanol y dref yw Neuadd Dewi Sant, lle y cynhelir cyngherddau ac arddangosfeydd, a'r Ganolfan Sglefrio I芒, cartref y Cardiff Devils.

Wrth deithio tua'r de o'r ganolfan sglefrio fe ddeuwn i olwg y m么r ac i ardal Bae Caerdydd, neu hen ardal y dociau. Dyma ardal sydd wedi ei gweddnewid yn llwyr yn ystod y degawdau diwethaf. Yn ystod y 19eg ganrif roedd y dociau yn ardal brysur iawn gyda chychod a llongau'n cludo glo oddi yma i bob cwr o'r byd.

Hanes dociau'r ddinas


Adeiladwyd y dociau ym 1839 gan yr Ail Ardalydd Bute. Cyn hynny roedd y llongau i gyd yn hwylio i'r cei lle mae Stryd Westgate heddiw.

Ond cyn diwedd y 18fed ganrif sylweddolwyd na allai afon Taf a'r cei ymdopi gyda'r prysurdeb o ganlyniad i'r fasnach lo oedd yn datblygu'n gyflym. Canlyniad hyn oedd adeiladu Camlas Morgannwg ym 1708 oedd yn cysylltu Merthyr 芒'r loc m么r yng Nghaerdydd. Ond dim ond llongau bychain oedd yn gallu defnyddio'r loc m么r. Dyma pam felly y penderfynodd yr Ail Ardalydd Bute adeiladu dociau yng Nghaerdydd.

Rhwng 1839 a 1907 bu ehangu cyson ym maint y dociau, ond yn fuan wedi i'r dociau gyrraedd eu hanterth bu cwymp yn y fasnach allforio glo. Dirywio wnaeth y dociau wedyn yn ogystal 芒'r ardal o'i chwmpas. Cynyddodd tlodi a diweithdra yn y rhan hon o Gaerdydd.

Yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif cafodd ymdrech arbennig ei gwneud er mwyn adfywio'r ardal. Adeiladwyd gwesty moethus, siopau a thai bwyta yma a chafodd nifer o'r hen dai eu dymchwel. Yr unig adeilad gwreiddiol sydd ar lan y bae heddiw yw hen swyddfeydd Cwmni Dociau Bute sy'n cael ei adnabod erbyn hyn fel adeilad y Pierhead. Mae nodweddion o grefftwaith Fictoraidd i'w gweld yn yr adeilad.

Y bae heddiw


Yn y bae heddiw mae adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yma hefyd mae Techniquest, canolfan wyddonol. Adeilad mawr gwydr ydyw a saif uwchben dociau Mount Stuart. Mae Canolfan Mileniwm Cymru bellach wedi agor ei drysau i'r cyhoedd hefyd, yn gartref i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal 芒 changen o Urdd Gobaith Cymru a gwersyll newydd yr Urdd.

Eglwys NorwyaiddOnd yng nghanol yr holl adeiladau modern mae un adeilad hynafol trawiadol a saif ar ei ben ei hun sef yr Eglwys Norwyaidd. Sefydlwyd yr eglwys ym 1868. Dyma'r eglwys Norwyaidd gyntaf i gael ei chodi dramor er mwyn gwasanaethu brodorion y wlad honno yng Nghaerdydd.

Yn y 19eg ganrif roedd nifer o forwyr o Lychlyn y teithio i Gaerdydd er mwyn cludo offer i'r pyllau glo yn y cymoedd. Roedd yr eglwys wreiddiol wedi ei lleoli ger doc y West Bute. Cafodd yr eglwys ei dymchwel yn yr 1980au er mwyn ei hail adeiladu ar ei safle presennol. Heddiw mae yn yr eglwys oriel arddangos, caffi a neuadd ar gyfer adloniant.


Cerdded

Canolfan y Mileniwm

Bae Caerdydd

Lleoliadau Doctor Who a Torchwood, adeiladau'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Diwydiant

Heddlu a streiciwr

Streic y Glowyr

Hanes y streic chwerw a rwygodd gymunedau glofaol Cymru am byth.

Arferion yr Wyl

Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd

Un o draddodiadau hynotaf yr hen Nadolig a'r Calan Cymreig ydy'r Fari Lwyd.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.