成人快手

Hanes Bro Hafren

top
Ardal siopa Y Drenewydd

Crwydro bro dyffryn Hafren yng nghwmni Alun Wigley gyda chyfle i ddod i adnabod hanes a chymunedau'r ardal.

Un o dair afon sydd yn tarddu ar Bumlumon yw'r Hafren, a hi yw'r Frenhines. Mynydd-dir anial garw geir yn y blaenau. Ond bob yn dipyn mae'r tir yn gwella gyda glannau'r afon wrth iddi lifo i lawr y dyffryn.

Erbyn cyrraedd Abermiwl, terfyn y fro, cawn ddaear ffrwythlon a thoreithiog.

Yr hen luestydd

Yn y gorffennol, ceid lluestai defaid yn yr ucheldir, ond oherwydd dirwasgiad y tridegau gwerthwyd y lluestydd brau i gyd i'r Comisiwn Coedwigaeth, ac mae'r cyfan erbyn hyn wedi ei gorchuddio gan y coniffars melltigedig a gwenwynig.

Mae rhyw swyn i'w gael wrth wrando ar enwau yr hen luestydd nad ydynt yn bod mwy. Dyma restr o'u henwau: Blaen Hafren, yn Hore, Cwm ac Aber Biga, Craes Uchaf a Graes Isaf, y Foel a Maesnant, Hafod Feddgar a Hafod Cae-dwgan, Dolgau a Dalbachog a Llwyn-y-Gog, ynghyd 芒 Rhyd y Benwch a Rhyd yr Onnen.

Mae y "bottom ground" berthynnai i'r rhain wedi cael eu cadw ac yn cynnal diadelloedd bychain yn awr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae pobl wedi dychwelyd i fyw i'r lleoedd anghysbell hyn. Collwyd tai a thiroedd pan adeiladwyd cronfa ddwr Llyn Clywedog.

Llanidloes - ddoe a heddiw

Pentrefi cyntaf y dyffryn yw Llangurig a Hen Neuadd. Y dref gyntaf yw Llanidloes. Tref farchnad ydyw, nad yw wedi newid yn sylweddol ers llawer o flynyddoedd. Bu'n lle prysur ar un adeg pan oedd y diwydiant gwl芒n yn ei anterth. Teg yw dweud nad yw arweinwyr y dref am weld y lle yn newid yn ormodol.

Prif Stryd Llanidloes

Mae tipyn o ffatr茂oedd wedi eu codi, ond mae llawer o weithwyr yn gyrru cryn bellter i weithio. Gwelir tai newydd yn cael eu codi, ond nid oes dim o'r stadau mawr i'w gweld yn Llanidloes. Hynodrwydd penna'r dref yw'r hen neuadd farchnad. Mae gyrwyr lor茂au wedi fflamio'r hen le i'r cymylau, ond mae'n annwyl iawn yng ngolwg rhai.

Hanner cant o flynyddoedd yn 么l, codwyd ysgolion i'r plant uwchradd a chynradd ar yr un safle. Roedd yn syniad o flaen ei oes, ond mae yn un da. Dyn lleol, Syr George Hamen, fu yn bennaf gyfrifol am gael y maen i'r wal. Rydym yn ymfalch茂o fod mab yng nghyfraith y diweddar Syr George yn byw yma, neb llai na'r Arglwydd Emlyn Hooson, ein cyn aelod seneddol, braint yw ei gael yn byw ac yn gweithio yn ein plith.

Mae digonedd o gapeli a thafarndai ac mae cynnal y naill a'r llall yn profi yn anodd. Ceir pob math o gymdeithasau yn y dref gyda'r gymdeithas Gymraeg yn mynd yn dda.

Pentrefi'r ardal

Dwy filltir o Lanidloes ceir pentref y Fan. Bu'r lle yn fwrlwm unwaith gyda rheilffordd yn dod i'r lle o Gaersws er mwyn cario'r mwyn plwm i ffwrdd, ond tawel yw hi yno yn awr.

Dwy filltir arall lawr y dyffryn ceir pentref D么l-Wen. Daeth y lle i amlygrwydd y blynyddoedd diwethaf pan adeiladwyd lladd-dy anferth Hamen International yno.

Ychydig filltiroedd ymhellach i lawr y ffordd down i Llandinam. Pentref sydd ychydig yn fwy o ran maint. Dyma gartref yr Arglwyddi Davies. Daeth y David Davies cyntaf i'r amlwg trwy adeiladu rheilffyrdd. Wedyn fe ddaeth yn berchen gl枚feydd lawer yn Ne Cymru. Cododd borthladd ynghyd 芒 miloedd o dai i'r gweithwyr. Gwelwn 么l y cyfoeth pan sylwn ar y tai mawr urddasol godwyd gan y teulu yn Llandinam. Mae cerflun o David Davies yn darllen papur ar dalcen y bont yng nghanol y pentref.

Enw priodol Y Drenewydd

Prif Stryd y Drenewydd

Prysurwn lawr y dyffryn trwy Benstrawed a chyrraedd y Drenewydd. Er bod yr enw yn hen mae'n ddisgrifiad cywir o'r dref fel ag y mae yn awr. Canolbwyntiodd y Bwrdd Datblygu ar ddyblu maint y dref ar ddiwedd y saithdegau ac mae'r ehangu yn parhau.

Adeiladwyd miloedd o dai ynghyd ag ugeiniau o ffatr茂oedd mawr a m芒n. Ond nid dod yn dref ddiwydiannol fodern wnaeth y Drenewydd. Bu'r lle yma yn fwrlwm o weithgaredd gyda ffatr茂oedd gwl芒n gyda'r rhai mwyaf enwog ym Mhrydain.

Dynion Y Drenewydd

Un o ddynion mawr y dref oedd Pryce Jones, perchennog busnesau, llawer ohonynt yn gysylltiedig 芒'r diwydiant gwl芒n a nyddu. Cododd adeiladau anferth gerllaw rheilffordd y dref gyda phont bren yn cysylltu y naill adeilad 芒'r llall.

Yn y Drenewydd dechreuodd y gwasanaeth 'Mail Order' cyntaf yn y Deyrnas Unedig, hyn o ganolfan Pryce Jones.

Un arall o ddynion y dref ddaeth i amlygrwydd oedd Robert Owen. Dyma'r g诺r fu'n gyfrifol am sicrhau telerau tecach i weithwyr cyflogedig. Gwelir cofgolofn iddo mewn gardd ar fin y briffordd. Gellir disgrifio'r briffordd o'r Dref Newydd i Lanidloes fel ffordd osgoi Caersws.

Caersws

Pentref gweddol o faint ydi Caersws. Tair tafarn, eglwys a thri chapel, gyda hanner dwsin o amrywiol siopau. Deil y trenau i stopio yn y stesion. Prif gyflogwr y pentref hyd at y blynyddoedd diwethaf oedd Ysbyty Llys Maldwyn. Adeiladwyd y lle i fod yn wyrcws i ddechrau. Rhaid dweud fod gan Gaersws d卯m p锚l-droed reit dda hefyd.

Nepell o Lanrwst mae pentref bach Llanwnog. Dyma'r lle y claddwyd John Ceiriog Hughes ym mynwent yr Eglwys. Tybed pwy gododd y mynegbost gyda'r geiriau "Ceiriog's Grave" arno.

Pentrefi'r gorllewin

Troi yn 么l tua'r gorllewin trwy bentrefi bach Pont-dol-goch a Clater a chyrraedd Carno. Hyd at ddeng mlynedd ar hugain yn 么l nid oedd unrhyw hynodrwydd yn perthyn i Garno. Soniai rhai am y Parch Joseph Thomas - g诺r hynod, mae'n debyg.

Laura Ashley

Heblaw hynny, ers dyfodiad y cwmni dillad Laura Ashley, nid yw'r lle wedi bod allan o'r newyddion. Er bod y cwmni wedi ehangu i bedwar ban byd, teimlir mai yng Ngharno mae eu cartref ysbrydol.

Daeth darganfod ffatri gwneud drygiau yn seleri Plas Llysyn ag amlygrwydd i'r lle hefyd. Un peth arall - roedd c么r cymysg da iawn yno ers talwm hefyd, sef C么r Sion.

Awn dros y mynydd i Drefeglwys yn Nyffryn Trannon. Ceir tir amaethyddol da yn y lle hwn. Nid oes llawer i ddweud am y lle ond ei fod yn tyfu'n gyflym ar hyn o bryd.

Tair milltir i fyny'r ffordd mae Llawryglyn. Nid oes dim byd nodedig yma nac ychwaith ym Mhen Ffordd Las, neu 'Stae' fel mae'r 'natifs' yn ei alw.

Cyn s么n mwy am Stae, rhaid crybwyll pentrefi bychain eraill sydd ar y cyrion. I'r dwyrain ceir pentrefi Mochdre a Ceri, llefydd lle mae pobl wedi symud fewn ac yn gwneud cyfraniad i fywyd Cymraeg eu hardal. Yna ychydig i orllewin yr afon mae pentrefi Bwlchyffridd, Aberhafesp, Betws a Aber bechan, cyn cyrraedd Abermiwl.

Dychwelyd yn awr i'r Stae yn yr ucheldir. Yma mae'r gwynt yn chwythu lle y mynna, ond erbyn hyn mae'r gwynt yn gwneud daioni yn hytrach na lladd a difrodi. Ar ddiwrnod clir gellir gweld hanner dwsin o ffermydd gwynt. Mae'r cyfraniadau ariannol a wneir gan berchnogion y cwmn茂au hyn yn gaffaeliad ac yn fantais i'n bro.

Boddi dyffryn Clywedog

Argae Clywedog

Crybwyllais Glywedog ynghynt. Bu Howell Harris yn pregethu yma. Yma hefyd sefydlwyd un o ysgolion Sul cyntaf Cymru. Ymestyn y gronfa hyd y Stae. Bydd y d诺r yn cronni pan fo'r llyn yn llawn at ymyl capel Bresbyteraidd y Graig. Ni bu protestiadau mawr yn erbyn boddi dyffryn Clywedog, oherwydd bod rhai hen dirfeddianwyr 芒'u llygaid ar y geiniog ac yn barod iawn i werthu. Ond mai cenhedlaeth 芒'u gwallt yn britho yn gresynnu am yr hyn ddigwyddodd. Erys rhyw ramant wrth gofio enwau y ffermydd aeth o dan y d诺r.

Un pwrpas wrth godi'r argae oedd ceisio rheoli llif y d诺r, a'i wneud yn iawn. Mae yn gweithio'n dda. Mae'n atynfa ac yn cynnal clwb cychod, ac yn nefoedd i'r pysgotwyr.

Soniais am godi dwy ysgol ar yr un safle hanner cant o flynyddoedd yn 么l. Yn y cyfamser daeth newid ym myd addysg. Caewyd drws llawer ysgol bentref; yn eu lle adeiladwyd ysgolion Bro. Adeiladwyd ysgolion newydd yn Drenewydd, ardal Rhiwfechan, Carno, ysgol Dyffryn Trannon yn Trefeglwys, ac mae ysgol newydd yng Nghaersws. Mae y rhan fwyaf o'r ysgolion hyn yn cynnwys ffrwd Gymraeg.

Mae neuaddau a chanolfannau cymdeithasol newydd wedi eu hadeiladu yn Carno ac yn Trefeglwys gerllaw yr ysgolion newydd. Hanerwyd nifer y clybiau Ffermwyr Ieuainc o'u cymharu 芒 deugain mlynedd yn 么l, ond mai clybiau Carno, Llanbrynmair, Aberhafesp, Abermiwl, Llidiart-y-Waun, Dolfor, Llangurig, a Trefeglwys yn ffynnu.

Wrth sylwi lawr y dyffryn, gwelwn fod yr iaith Gymraeg bron wedi diflannu i dde ddwyrain afon Hafren ond mae y sefyllfa yn well tua'r gorllewin. Mae newid wedi digwydd tros gyfnod maith. Saesneg yw iaith y cerrig beddau ers canrifoedd.

gan Alun Wigley


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.