成人快手

Ardal Aberteifi

top
Arfordir Aberteifi

Hanes de-orllewin Ceredigion a'r cylch gyda John Meirion Jones yn esbonio hanes a thraddodiadau'r ardal a gysylltir yn gryf gyda'r m么r.

Mae'r ardal hon yn cwmpasu de-orllewin Ceredigion o'r Ferwig ar aber yr afon Teifi yn y de i bentref Llanarth yn y gogledd.

Ymestynna hefyd o'r pentrefi glan m么r gorllewinol - Aberporth, Tresaith, Penbryn, Llangrannog, Cwmtydu a Chei Newydd - hyd at Dalgarreg, Ffostrasol, Coedybryn, Beulah, Llechryd a Llandygwydd i'r dwyrain.

O fewn ei therfynau amhenodol mae ei hieithwedd, ei chystrawen ieithyddol a'i thafodiaith yn gymharol gyson.

Amaethyddiaeth

Mae cefn gwlad yn seiliedig ar fywyd amaethyddol. Lle'r oedd ffermydd bychain teuluol, bellach mae unedau mwy o faint. Ond nid ydynt hwythau yn medru cynnal teuluoedd mawrion. Gyda llawer o'r disgynyddion yn derbyn addysg uwchradd a phrifysgol maent yn symud o'r ardal. Gedy hyn lai o alwadau ac eisiau tai ar Gymry cynhenid ac mae tramorwyr yn symud mewn ac yn newid gwead a diwylliant Cymreig yr ardaloedd.

Twristiaeth tymhorol yw prif ddiwydiant y pentrefi morwrol er bod canolfan dechnolegol ac amddiffyn Aberporth, pysgota a ffatri bysgod Cei Newydd a gwaith swyddfa a swyddi proffesiynol y trefi fel bancwyr, athrawon, cyfreithwyr yn cyflenwi gofynion yr ardal gyfan.

Bellach nid yw llawer o'r cymunedau bychain yn medru cynnal gweithgareddau diwylliannol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Daw llawer o'r brodorion i ganolfannau canolog. Dyma un o'r rhesymau tu 么l sefydlu'r papur bro, Y Gambo.

Mae rhif y Cymry Cymraeg yn cwympo, mae llai yn mynychu capel ac eglwys. Mae eisiau gwaith a chartrefi o fewn cyrraedd pocedi y boblogaeth leol.

Eglwysi'r Saint

Mae dylanwad hanesyddol y saint cynnar yn drwm ar yr ardal. Er enghraifft, sefydlwyd eglwysi i Pedrog, Crannog, Tysilio, Ina, Cynllo, Dewi, Cynwyl, Tygwydd a Mihangel, ac yn sgil ymneilltuaeth gwelir patrwm eang o gapeli hardd eu gwneuthuriad dros y fro.

Un o'r elfennau pwysicaf yw'r traddodiad morwrol fu mor nodweddiadol o'r arfordir dros y ddau gan mlynedd a thu hwnt. Mae olion cestyll a chaerau cynnar ar hyd yr arfordir yn dangos fod llwythi wedi poblogi'r ardaloedd trwy'r oesoedd.

Odyn galch Mwnt

Bu diwydiant adeiladu llongau bron ymhob pentref ac mae olion odynnau calch i'w gweld hefyd. Doi'r calch i fewn mewn llongau bychain cyn ei losgi a'i wasgaru ar y tiroedd asid. Yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf aeth llawer o fechgyn y broydd i'r m么r, rhai ohonynt i ddringo'n gapteiniaid a threulio eu hoesau yn morio'r cefnforoedd.

Un o'r enwocaf oedd y Capten Jac Alun, un o deulu'r Cilie, a oedd yn fardd ac enillydd ar yr englyn dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Aeth deg o fechgyn y Cilie i'r m么r. Heddiw nid oes bron neb.

Bois y Cilie

Mae'r broydd yn enwog am eu beirdd a'u llenorion. Cofnodir beirdd y Cilie (gyda S.B. Jones yn enillydd coron a chadair y Genedlaethol ac Alun yn derbyn yn derbyn Gwobr yr Academi Gymreig am ei lyfr o farddoniaeth), T. Llew Jones (awdur a bardd), Dic Jones (awdur, bardd, beirniad ac enillydd cyson yn Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol), Donald Evans (bardd dwbl-dwbl Coron a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol), amryw o dimau'r 'Talwrn', Emyr Davies (Aberporth), John Lloyd Jones (Llwyndafydd), Idris Reynolds (enillydd Cadair y Genedlaethol ddwy waith) a'r brodyr James.

Mae caniadaeth y cysegr, canu corawl (e.e. Ysgol Gerdd Ceredigion, C么r Bro Nest, Ar 脭l Tri, C么r Penparc, C么r Blaenporth a Ch么r Pensiynwyr Aberteifi a'r Cylch) a cherdd dant yn gysylltiedig 芒'r fro. Gwnaeth Aelwyd Aberporth dan arweiniad y Parch. a Mrs Tegryn Davies waith arloesol a buont yn llwyddiannus droeon yn Eisteddfodau'r Urdd.

Perthyn i'r ardal dirwedd o olygfeydd trawiadol ac mae'r arfordir gyda'r mwyaf prydferth yng Nghymru a thu hwnt.

gan John Meirion Jones


Cerdded

漏 Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glynd诺r yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddoc芒d yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.