 |
 |
 |
Elyrch ar y maes am y tro cyntaf
|
 |
 |
 |
Am y tro cyntaf erioed mae gan Glwb P锚l-droed Dinas Abertawe babell ar faes Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ben hynny mae gan Yr Elyrch bob math o nwyddau newydd Cymraeg a dwyieithog gan gynnwys matiau llygod, mygiau a chrysau T yn dwyn arwyddair y clwb, Balchder, Angerdd a Cred - Pride Passion and Belief.
Yn gofalu am y safle ar y maes mae Andrea Morris, rheolwr busnes a marchnata y clwb (ar y chwith yn y llun).
"Yr ydym yn credu fod hyn yn rhywbeth y dylai clwb fel Abertawe ei wneud gan fod llawer o'r cefnogwyr yn medru Cymraeg," meddai
Er bod y profiad eisteddfodol yn rhywbeth newydd i'r clwb dydi o ddim i Andrea gan iddi hi fod yn cystadlu gyda'r git芒r clasurol yn y gorffennol.
Yfory, dydd Mercher, bodd holl aelodau'r t卯m yn ymweld 芒'r maes ac yn cyfarfod y tu allan i babell y clwb rhwng hanner awr wedi un a hanner awr wedi dau.
Dychwelwch i'r safle hwn i weld lluniau o'r digwyddiad hwnnw.
 |
 |
 |
 |
|
|