 |
 |
 |
Hywel Gwynfryn - deugain mlynedd o'r Steddfod
|
 |
 |
 |
Eleni, mae Hywel Gwynfryn yn dathlu deugain mlynedd ers darlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf erioed.
"Aberafan n么l yn 1966 oedd fy eisteddfod gyntaf gyda Radio Cymru - a dwi ddim wedi colli'r un ers hynny!" meddai.
"Mae pethau wedi newid llawer - yn enwedig y pafiliwn. Bydd pafiliwn leni yn sicr o ddenu sylw i'r eisteddfod gyda'r lliw llachar ac hefyd yn codi ymwybyddiaeth o ymgyrch bwysig cancr y fron."
Pererin y maes Mae dyletwsyddau Hywel yn yr eisteddfod wedi newid cryn dipyn ers y dyddiau cynnar hefyd.
"Crwydro'r maes fel pererin 芒 bac-pac mawr ar fy nghefn o'n i'n wneud pan ddechreuais i gan sgwrsio gyda hwn a'r llall ar y ffordd.
"Pan fyddai seremoniau'r coroni a'r cadeirio, fe fydden i'n eistedd yn y pafiliwn ac yn neidio i set y buddugwr unwaith i hwnnw godi i fynd i'r llwyfan gan y byddai rhywun o'i gydnabod neu ei deulu yn siwr fod yn eistedd bob ochr i mi. Fe fyddai 'na gyfle gr锚t yn ystod y ddawns flodau i gael sgwrs gyda nhw gan sicrhau fod y sylwadau cyntaf ar Radio Cymru."
Un o nodweddion arbennig Hywel yw ei fod bob amser yn paratoi'n drylwyr ar gyfer pob darllediad - efallai ei fod yn swnio'n llithrig ac yn hawdd ar yr awyr ond deillio mae hynny o ymchwil manwl.
Pe na byddai'n gweithio Er nad ydy e'n barod i roi'r gorau i'r sylwebu eto, mae Hywel yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd ganddo amser i fwynhau'r 诺yl.
"Pe na bawn i'n gweithio yn y 'steddfod fe fyddwn i drwy'r dydd bob dydd yn y Babell L锚n - dwi wrth ym modd yn s诺n y gynghanedd ac yn clywed y meistri wrth eu crefft," meddai.
Steddfod y 成人快手
 |
 |
 |
 |
|
|