 |
 |
Fflur Dafydd yn ennill y Fedal Ryddiaith
|
 |
 |
 |

1听
2听
3听
4听
5听
6听
7听
8听
9听
10听
11听
12听
|
 |
Fflur Dafydd o Gaerfyrddin enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Abertawe 2006 gyda nofel a ysbrydolwyd gan Ynys Enlli lle treuliodd yr awdur chwe mis.
Dywedodd Derec Llwyd Morgan: ei bod yn awdur "a rydd gryn ddiddanwch llenyddol i bawb a gar rialtwch a difrifwch bywyd rhwng dau glawr."
Dywedodd Jane Aaron: ""Fel ymgais i gyfleu naws lle arbennig, mae'r nofel hon yn gelfydd ac yn argyhoeddi. Efallai nad yw pob un o'i chymeriadau . . . yn rhydd o'r ystrydebol, ac efallai nad yw pob edau wedi gweu'n dwt . . . ond mae'r cyfanwaith yn fywiog."
Meddai Grahame Davies: "Dyma wir artist y gystadleuaeth [yn meddu'r ddawn] i ddewino awyrgylch ac i greu cymeriad." |
 |
|
|