 |
 |
 |
Bara Caws ym Mhontlliw Dychan deifiol ar deledu |
 |
 |
 |
Eisoes cafodd dychan deifiol sioe glybiau ddiweddaraf Bara Caws dderbyniad gwresog ar ei thaith o amgylch Cymru.
Yn Abertawe bydd cyfle i Eisteddfodwyr weld be di be gyda sioe Bryn F么n, Tony Llewelyn a Dyfan Roberts yn cael ei pherfformio yn Neuadd Bentref Pontlliw o nos Fawrth Awst 8 tan nos Wener Awst 11 am wyth o'r gloch.
Dychan didrugaredd o'r byd teledu yng Nghymru yw Jac yn y Bocs yn olrhain hanes gweithiwr dinod yn cael ei ddyrchafu yn "Brif Weithredwr y Sianel Genedlaethol".
Mae Bara Caws yn addo "troi'r bocs ben ucha'n isaf' i weld beth ddisgynnith allan" ac yn 么l adolygydd 成人快手 Cymru'r Byd dyna'n union sy'n digwydd!
Yr actorion yw, Lisa J峄噉 Brown, Llyr Evans, Maldwyn John, Eilir Jones a Catrin Mara gyda Tony Llewelyn yn cyfarwyddo.
Cliciwch i ddarllen adolygiad Alwyn Gruffudd
 |
 |
 |
 |
|
|