 |
Bydd rhai o feirdd a rapwyr gorau Cymru yn herio eu gilydd mewn cystadleuaeth nos Lun, Awst 7.
Bydd y gystadleuaeth draddodiadol hon yn y Glamorgan Arms Pontlliw gyda Geraint Lovgreen, Gwyneth Glyn, Twm Morys a Gwenno Mair Davies yn cynrychioli'r beirdd ac Ed Holden, Steffan Cravos a MC Saizmundo yn troi tu min arnyn nhw.
Yn y canol yn Meuryna bydd y Godrapiwr Aneirin Karadog, gyda'r DJ Dyl Mei yn ei gynorthwyo.
Trefnir y noson gan Menter Iaith Abertawe, Mentrau Iaith Cymru a Cymdeithas Yr Iaith ac mae hi hefyd yn gychwyn taith Beirdd v. Rapwyr o amgylch Cymru gan alw yn Rhosllannerchrugog, Llangadfan Powys, Sarn Pen Llyn, Pumsaint, Aberystwyth a Llanrwst ym mis Hydref a Tachwedd.
 |
 |