 |
 |
 |
Cymdeithas Cymru Ariannin ar y maes
|
 |
 |
 |
Bydd dawnsfeydd o dde America yn cael eu perfformio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae'r dawnsio yn rhan o weithgarwch Cymdeithas Cymru Ariannin ar y maes gyda'r arddangosfa gyntaf y tu allan i babell y gymdeithas (safle 1201-2) brynhawn Mercher rhwng hanner awr wedi un a hanner awr wedi dau gan Ddawnswyr Cymdeithas America Ladin Abertawe.
Prynhawn Iau rhwng 1.30 a 3.30 bydd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin ym Mhabell y Cymdeithasau .
Yn dilyn, bydd Hazel Charles Evans yn llofnodi copiau o'i nofel Glas ym Mhabell y Gymdeithas.
Nos Wener Awst 11 bydd Cwmni Theatr Ieuenetid Gorllewin Morgannwg yn cyflwyno Amhosib Wladfa yn Theatr y Maes am 7.30 - gwaith theatr newydd wedi ei ddyfeisio a'i ysgrifennu gan y Cwmni gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Mal Pope.
 |
 |
 |
 |
|
|