成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

成人快手 成人快手page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y llaw sy'n sgrifennu . . . Gwilym Owen o Faes y Brifwyl
Mae Gwilym Owen yn darlledu o'r maes bob bore ar y Post Cyntaf
  • Emyn newydd

  • Cyfarchion o faes Prifwyl 2006.
    A wyddoch chi be, mae hon yn addo bod yn dipyn o jyncet gan Jacs Abertawe.

    Gwilym Owen Mae hi wedi cychwyn ar nodyn gogoneddus. Alun Pugh - ie, dyna chi y dyn sydd wedi bod yn ddraenen yn ystlys y Sanhedrin ers rhai blynyddoedd - wele, ef bellach yn canmol i'r cymylau a hynny ar 么l deuddydd yn unig.

    Welais i mo'r Gymanfa Ganu neithiwr ond tybed a oedd yna lun o'r Gweinidog a'r sanhedrinol griw yn canu o'r un llyfr emynau?

    Mae'n rhyfedd sut mae blwyddyn etholiad yn gallu newid agwedd gwleidyddion!

  • Sbriwsio'r Orsedd

  • Ac o s么n am newid tybed a welwn ni dipyn o'r newid hwnnw yn nghyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd y bore ma?

    Peidied neb a synnu gweld yr hen gojars cobannog yn dechrau siglo a chwifio eu breichiau unwaith y clywan nhw s诺n telyn neu gorn gwlad - yn union fel perfformwyr profiadol Ysgol Glanaethwy.

    Yn 么l y s么n mae Cefin Roberts, bos yr ysgol honno, wedi bod yn cynghori'r Orsedd sut i roi mwy o gic yn y seremon茂au.
    Gwyliwch y datblygiadau.
    Cliciwch i weld lluniau o ymarfer y coroni

  • Cic owt

  • Un seremoni sydd wedi cael cic oddi ar lwyfan yr 糯yl eleni ydi honno i groesawu'r Cymry tramor i'r Steddfod.

    A dydi'r penderfyniad ddim wedi plesio pawb - yn wir efallai y bydd yn rhaid i'r Cyngor ail feddwl oherwydd ddydd Gwener yng nghyfarfod y Llys bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn galw am adfer y drefn a fu mewn bodolaeth er 1948.

    A fydd gweinyddiaeth newydd yr Eisteddfod yn gorfod plygu i bleidlais y Llys?
    Cawn weld.

  • Pobl y wasg

  • Ysgwn i beth a ddywedai John Roberts Williams pe galwai heibio'r maes a chanfod fod ei ail ddarlith goffa yn cael ei chyflwyno gan golofnydd y papur Cymreig hwnnw, theguardian ac mai un o gyfranwyr wythnosol y Wales on Sunday sy'n cadeirio'r cyfarfod.

    A phwy sydd wedi trefnu'r cyfan? Neb llai na bosus y papur dyddiol Cymraeg, Y Byd.

    Mae yna neges inni gyd fanna dybiwn i.

  • Dirgelwch brenhinol

  • O un dirgelwch eisteddfodol at un arall - a dirgelwch brenhinol at hynny.

    Ylwch, meddai'r cyn Archdderwydd Robyn Ll欧n yn ei gyfrol ddiweddar. Tydi'r Frenhines bellach ddim yn aelod o Orsedd y Beirdd oherwydd dan y cyfansoddiad newydd dim ond y rhai hynny sy'n medru Cymraeg sydd 芒 hawl i aelodaeth.

    Dydi hi ddim wedi dysgu'r iaith felly allan a hi.

    Ond na, meddai'r Cofiadur John Gwilym Jones ar Radio Cymru, mae'r hen wraig yn dal yn aelod. Does 芒 wnelo'r cyfansoddiad newydd ddim 芒 hi o gwbl.

    Y swyddog cyfreithiol a'r Cofiadur, felly, efo dwy stori wahanol.
    Gawn ni oleuni yr wythnos hon tybed?

  • Un enw dau arweinydd

  • Ond yn 么l, i orffen, at jyncet unigryw y Jacs.
    A dyma ichi reswm arall pam bod hon yn dipyn o 糯yl.
    Dyma'r tro cyntaf erioed inni gael dau Garry yn arweinyddion llwyfan.

    Ac mi fydd y ddau wrth eu gwaith heddiw.
    Pob hwyl iddyn nhw - a bore da i chwithau o Felindre.


    Mwy o storiau Dydd Llun

    sunny Abertawe
    isaf 10掳C听听uchaf 15掳C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy