成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Aderyn drycin yr Eisteddfod

gan y Parchedig Aled Edwards
Mae'n braf cael bod yn gysurus yn yr Eisteddfod yn Nhyddewi ar ôl poeni am fisoedd y byddai'n rhaid imi rannu pabell â'r mab ar Faes B!


Ond achubodd Ficer Penarth fy nghroen a'm hunan barch a bellach, rwyf ymysg y ffodus rai.

Mae gennyf garafán yng Nghroesgoch ar gyfer wyth o bobl am wythnos gyfan.

Roedd y mab yn hynod o falch. Byddwn yn edrych fel aderyn drycin ar Faes B ac yn peri embaras enbyd iddo!

Bod yn ddosbarth canol braf
Cafwyd bargen fach rhyngof a Ficer Penarth y byddwn yn cynnal un o'i wasanaethau ym mis Gorffennaf ac yn gweinyddu priodas hynod o bwysig un prynhawn Gwener.

Caniataodd hyn iddo ef a'i deulu gael gwyliau braf ar y Cyfandir. Cefais innau rwydd hynt i ddefnyddioi garafán yntau.

Erbyn hyn, dwi'n gweld yr angen am foethusrwydd pethau'r byd dosbarth canol Cymraeg. Nid wyf yn gweld dim o'i le yn hynny.

Jyst enjoio

Ers misoedd bm yn edrych ymlaen at bacio'r telesgop a gweld y sêr yn eu llawn gogoniant o Dyddewi. Mae llygredd goleuni Caerdydd yn niwsans lle mae sêr-syllu yn y cwestiwn.

Darperais y mapiau yn ofalus a gweddïo'n daer ar i'r Bod Mawr beidio ag anfon cymylau.

Hefyd, bydd fy ngefell, ei gwr, a'u plant yn dod i aros i'r garafán yng Nghroesgoch.

Byddaf yn mwynhau fy nghwmni fy hun ond mae hawlio carafán gyfan i wyth yn ystod wythnos yr eisteddfod yn wastraff. Cawn fwynhau cwmni ein gilydd fel teulu a jabran yn Gymraeg am oriau maith.

Dyna fwynhad. Byddaf fel aderyn haf yn ei elfen.

Gofynion gwaith
I mi, mae fy ngwaith yn bleser. Peth hynod o braf yw cael pobl eraill i dalu i mi am wneud yr hyn yr ydwyf yn ei wirioneddol fwynhau.

Byddaf ym mhabell CYTUN ar faes yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos yn sgwrsio ac yn mwynhau bwrlwm y brifwyl. Byddaf yn cwyno'n flynyddol am ambell un fydd yn sicr o ddweud rhywbeth gwirion, ond mae'r cyfan yn hwyl.

Mae rhyw anghydfod neu ddau yn ystod yr Eisteddfod yn rhan o fwrlwm y cyfan. Byddai Eisteddfod heb anghydfod yn boring.

Gwahaniaethau personol
Wedi dweud hyn, fe fydd Eisteddfod eleni yn wahanol i mi. Byddaf yn cyhoeddi dau lyfryn bach.

Mae'r cyntaf, Gwneud Gwahaniaeth a gyhoeddir gan yr Ymgyrch Senedd i Gymru, yn cael ei ddosbarthu am ddim i bawb.

Bm wrthi am oriau maith yn rhestru'r gwahaniaethau a ddaeth yn sgil datganoli Cymreig. Gallwn ganfod o ddeutu dau gant a hanner o wahaniaethau. Y mae croeso i bawb i'w darllen, eu gwerthuso a gadael i mi wybod os oes rhagor o wahaniaethau i'w canfod.
Dyna her!

Fe fydd prynhawn Iau yr Eisteddfod yn ddigwyddiad hynod o bwysig i mi'n bersonol ac yn gwneud gwyl Tyddewi yn brofiad gwahanol iawn. Hyn i mi fydd uchafbwynt yr Eisteddfod.

Am hanner awr wedi un y prynhawn bydd Helen Mary Jones, is-gadeirydd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad, yn lansio llyfryn gennyf dan y teitl Y Dieithryn yn Eich Plith.

Nid yw'n ddim amgenach na llyfr lloffion bach o'r profiadau a gefais o ymwneud â cheiswyr lloches carchar Caerdydd, y Cynulliad a'r cyfryngau Cymreig.

Nid lansio'r llyfr ar ran Cymro Cymraeg fel fi sy'n bwysig, ond parodrwydd casgliad o ffoaduriaid Cymreig o rai o fannau mwyaf cythryblus y byd i adael eu nythod mewn dinasoedd fel Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe i fynychu ein prifwyl ar y dydd pryd y byddwn yn estyn croeso arbennig i'r Cymry ar wasgar. Cawn weld pa fath o groeso a gaiff y ffoadur fel math newydd o Gymro yr aderyn drycin Cymreig.

Bydd nifer yn y lansio ym mhabell CYTUN ac yn barod i gyflwyno eu hunain.

Dewch draw am sgwrs!




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

成人快手 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy