成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cefndir Yr Archdderwydd newydd

Merched y ddawns flodauHon fydd eisteddfod gyntaf Robyn Lewis yn archdderwydd - ond mae'n gyntaf am fwy nag un rheswm . . .



Dyma Robyn Llyn
Ganed Dr Robyn Lewis yn Llangollen ond symudodd y teulu i dref glan-môr Nefyn pan oedd Robyn yn dair oed ac yno y mae'n dal i fyw.

Yr oedd ei dad o Ynys Môn a'i daid o gyff Y Cilie yng Ngheredigion.

Mae ei wraig, Gwenan, yn hanu o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog.

Gyda'i fam yn athrawes Ffrangeg magwyd ef yn dair-ieithog ac mae wedi ymddiddori hefyd mewn Almaeneg a Sbaeneg.

Mynychodd ysgolion Nefyn a Phwllheli.

Cyn mynd i'r coleg bu am flwyddyn yn Ffrainc.

Newidiodd o gwrs BA Ffrangeg a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan raddio yn y gyfraith

Ar ô1 bwrw erthyglau cyfraith ym Mangor ymsefydlodd yn gyfreithiwr ym Mhwllheli.
Bu'n darlithio ar y Gyfraith yn y Gymraeg i ddosbarthiadau nos am tua phum mlynedd.

Ymddangosodd gerbron y llysoedd laweroedd o weithiau ar ran "troseddwyr yr iaith".

Bu'n Ddirprwy-Farnwr a Chofiadur Cynorthwyol yn Llys y Goron.

Ar ô1 ymddeol yn gynnar fel twrnai daeth yn fargyfreithiwr yn Gray's Inn, Llundain.

Enillodd radd PhD ym Mhrifysgol Cymru, Bangor am draethawd ymchwil1500 tudalen, "Geiriaduraeth y Gyfraith".


Ei ddyletswydd cyhoeddus cyntaf - cyhoeddi Eisteddfod 2003 yn y TrallwngMae'n awdur 20 o lyfrau gan gynnwys tri geiriadur cyfreithiol Saesneg-Cymraeg.

Mae'n aelod trwy arholiad o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a thrwy wahoddiad, o'r Academi Gymreig.

Ymgeisiodd am Senedd San Steffan ar ran Plaid Cymru yn Arfon ym 1970.

Bu'n Is-Lywydd Plaid Cymru am chwe blynedd.

Ef oedd Cadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Dwyfor.

Urddwyd ef i'r Wisg Wen yn Eisteddfod Bro Myrddin ym 1974. Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Mhrifwyl Dyffryn Lliw, gel Abertawe, ym 1980 am ei gyfrol, Esgid yn Gwasgu.

Er 1981 bu'n Swyddog Cyfraith Gorsedd y Beirdd.

Ef yw'r cyntaf i'w ethol yn Archdderwydd dan y drefn newydd sy'n rhoi pleidlais i bob aelod o'r Orsedd.
Ef hefyd yw'r yw'r archdderwydd cyntaf nad yw'n Brifardd ond wedi ei ddewis fel Prif Lenor.
Y mae hefyd y bargyfreithiwr cyntaf erioed i fod yn archdderwydd.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

成人快手 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy