成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Seremoni'r CadeirioCafodd cadair ddadleuol Eisteddfod Tyddewi gymeradwyaeth y prifard a'i henillodd.

Yn syth wedi seremoni'r cadeirio dywedodd y Prifardd Myrddin ap Dafydd ei fod "wedi dotio" at y ffordd y dewisodd Robert Jones ei chynllunydd gynnwys symboliaeth yn ei gwneuthuriad.

Gwerthfawrogai yn arbennig symboliaeth y ddraenen meddai.

"Yn enwedig yn y rhan hon o'r byd. Yr oeddwn yn sylwi fy hun ar ambell un yn tyfu'n styfnig, yn gam yn y gwynt," meddai.

"A chwarae teg iddo hefyd am roi ei gerdd ei hun ar gefn y gadair - yr wyf yn edrych ymlaen at ei darllen," meddai.

Daeth Myrddin ap Dafydd ag elfen newydd o ysgafnder i seremoni'r cadeirio trwy roi'r Archdderwydd newydd, Robyn Llyn, mewn rhywfaint o dwll gyda'i ddewis o ffugenw, Pawb yn y Pafiliwn.

"Ond yr oedd gen i ddigon o hyder yn nawn gyfreithiol Robyn Lewis i ddod allan o'r gongl y rhoddais i o ynddi hi," meddai gan ychwanegu i'r ysgafnder a gyflwynodd y ffugenw i awyrgylch y seremoni fod yn help iddo ef ei hun wrth ddisgwyl am y foment fawr yn y gynulleidfa.

Myrddin ap DafyddEnillodd Myrddin ap Dafydd ei Gadair gyntaf ddeunaw mlynedd yn ôl yng Nghwm Rhymni ond dywed na fu'n cystadlu'n rheolaidd ers hynny, dim ond y llynedd ac eleni.

Y tro hwn dywedodd i'r testun, "Llwybrau" apelio'n syth ato.

"Mae llwybrau yn cysylltu lleoedd, yn cysylltu pobl ac yn cysylltu cymunedau a'i gilydd a'n cysylltu â hanes a chwedloniaeth," meddai.

Disgrifwyd y gyfres o gerddi fel "ysgytwol" gan y Prifardd Jâms Niclas yn traddodi'r feirniadaeth ac wrth son am y gerdd Gorymdaith yn coffau y diwygiwr cymdeithasol radicalaidd, Rod Barrar, cyfeiriodd at "grefft anghyffredin" Myrddin ap Dafydd gyda "hen fesurau'n canu clod edmygus a ddug bortread cofiadwy o wrthrych y gerdd hyd at y diweddglo ysgytwol:
llawn hast, llawn mystyn lastig eiliadau;
llawn ebychiadau, llawn byw ychydig."

Mae'r cerddi buddugol yn nodedig hefyd oherwydd yr arbofi a'r ystwytho a fu â'r mesurau caeth a phenderfyniad Myrddin ap Dafydd i gyfansoddi deg o gerddi unigol yn hytrach nag un awdl faith.

Yn wir mae ei waith gorffenedig yn gyfuniad o wyth o awdlau llai yn hytrach nag un faith.

Dywedodd iddo ddechrau cyfansoddi'r gyfres o gerddi cyn gweld rhestr testunau Tyddewi.

"Mewn gwirionedd, dydi cerdd gyntaf y casgliad ddim ynddi achos yr oeddwn wedi ei darllen ym mhriodas Twm Morys ac yr oedd wedi ei chyhoeddi," meddai.

Ond pan fydd y cerddi yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol bydd y gerdd honno na chafodd ei hanfon i Dyddewi yn cael ei chynnwys.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

成人快手 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy