成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Talwrn: pencampwyr ar y cynnig cyntaf

Talyrnwyr Caernarfon efo Gerallt Lloyd OwenYn dîm newydd a ffurfiwyd yn ddiweddar tîm beirdd Caernarfon a ddaeth ynh bencampwyr Talwrn y beirdd ar faes y Brifwyl ddydd Sadwrn



Wedi dros ddeugain wythnos o gystadlu y ddau dîm a wynebai ei gilydd yng ngornest olaf y rhaglen radio boblogaidd oedd Y Taeogion yn cynnwys Emyr Davies, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones a Caryl Parry Jones oedd tîm newyddanedig Caernarfon yn cynnwys, Ifor ap Glyn, Llinos Angharad, Geraint LovegreenTwm Morys a Gwyn Erfyl dan gapteniaeth Robin Evans.

Taeogion ^a GeralltYr oedd hwn hefyd yn achlysur cyflwyno Tlws Coffa Cledwyn Roberts am y delyneg orau yn ystod y gyfres bresennol.

Ond dywedodd y meuryn, Gerallt Lloyd Owen, ei fod wedi ystyried hefyd gampau'r gorffennol gan fod dau fardd wedi ennill deg o bwyntiau am delyneg yn ystod y gyfres, Gwyn Erfyl a Haf Llywelyn o dîm Penllyn.

Haf Llywelyn "Ond gan fod Gwyn Erfyl yn aelod newydd ac heb drac record digon hir yr wyf wedi penderfynu rhoi'r tlws i Haf Llywelyn am ei theyneg Moelni," meddai Gerallt Lloyd Owen.

Ymgeisiodd Haf gyda'r delyneg yn yr ornest gyn-derfynol yn erbyn Caernarfon yr wythnos cynt.

Moelni
Rhwng y muriau
gwyngalch hyn
unwaith,
daethant I'th geisio
a'u coleri gwynion
yn crafu
llosg haul y cynhaeaf.
Ac yn Nhy'n Drain
bryd hynny,
roeddet Ti yno'n aros,
aros am Morus Gellilas
a'i ddyled efallai,
neu'n aros
i estyn Dy law drugarog
i forwyn fach Uwchlaw'r Coed
a'i baban di-bechod -
oherwydd
yma'n Nhy'n Drain
bryd hynny
aeth rhagfarnau'r dydd
o'r tu arall heibio.
Ond heddiw
a'r muriau gwyngalch
yn gysgodion gwyrdd,
mae rhedyn emrallt
yn glustog
ar sedd y pulpud,
tybed
wyt ti yno o hyd?
Neu efallai
i Ti gael digon
ar aros .
Haf Llewelyn

Yr oedd gornest y Talwrn ei hun yn un glos iawn a dim ond o drwch pwynt a hanner y cipiodd Caernarfon y bencampwriaeth oddi ar dîm a fu mewn rownd derfnyol sawl gwaith o'r blaen a dod yn fuddugol unwaith.




Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

成人快手 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy