Meic yn y Pafiliwn
Edrych ymlaen at gitâr, tafarn, gwin a merched drwg Mari Jones-Williams yn cael ei siomi gan gyngerdd Meic Stevens ym Mhafiliwn Steddfod Tyddewi
Rydw i'n eistedd yma, yn difaru mod i wedi cynnig gwneud yr adolygiad yma o gwbl. Pam? Wel, am mai adolygu cyngerdd Meic Stevens ydw i. Ie, Meic Stevens. Ac am y rheswm hwnnw roedd yr ansoddeiriau yn dechrau saethu i flaen y meddwl hyd yn oed cyn imi barcio'r car a'i rhuthro hi am y pafiliwn. Swynol, iasol, hyfryd, hamddenol, gwefreiddiol Dyna rai o'r geiriau rydw i yn ysu i'w defnyddio yn yr adolygiad. Ac er siom a diflastod, dyma'r geiriau allai ddim dod o hyd i le addas iddyn nhw yn y pwt yma. Lle mae'r swyn? Dwi'n ymgripio i fy sedd ychydig yn hwyr, gan weddio nad ydw i'n tarfu ar y swyn y mae'r gynulleidfa dan ei dylanwad. Ond wrth lithro i'm sedd, dwi'n sylwi bod y rhes fwy neu lai yn wâg. Yn un mewn rhesi o gadeiriau gwag. Dwi'n ceisio bod yn dawel wrth wneud fy hun yn gyfforddus ond yn sylwi bod y bobl gerllaw yn siarad ymysg ei gilydd. Yng nghanol cân. A lle mae'r swyn? Fel yr â'r munudau yn eu blaenau, mae nghalon i'n suddo'n is ac yn is. Tydw i ddim yn y lle delfrydol, ar ymylon gwag y gynulleidfa. Mae'r sain yn diasbedain yn wâg a di-afael, mae'r caneuon i gyd yn swnio yr un fath, mae'r gitar flaen drom yn tarfu ar y gân ac mae'r offerynwyr yn fler. A Meic yn anghofio llinellau cyfain o'i ganeuon ei hun ond Heather Jones a'i llais arbennig yn llwyddo i gadw pethau at ei gilydd i raddau. Ond mae popeth yn ddi-siap, yn ddi-liw ac yn ddi-batrwm.
Gwaeth a gwell i ddod! Ond mae gwaeth, a gwell i ddod. Cyn hir wele dair meinwen mewn siwtiau tynn, du yn ymddangos ar y llwyfan a Meic yn diflannu'n wylaidd i'r cefndir gan eitedd yn benisel wrth i'r tair ddechrau sgrechian yn operatig fel gwallgof-bethau.
Mae'r siglo-tin, y colur, y cyflwyniad cyfoglyd yn gwneud imi chwerthin. Oni bai ei fod mor drist.
Mae'r un yn y canol yn amlwg yn credu mai hi yw'r ymgorfforiad o Elfis ei hun, ac mae'r rhai y tu ôl i mi yn piffian chwerthin wrth i'r tair labuddio a darnio cân ar ôl cân o waith Meic.
Ysbryd cyfrin Penfro Yn ddi-os mae rhyw ysbryd cyfrin i Sir Benfro, ac ambell i dro mae cilcyn neu olygfa yn y rhan hudolus hon o'r byd yn atgoffa dyn o gerddoriaeth Meic ei hun.
Mae ambell i felodi o'i waith yn canu golygfa a theimlad Penfro, os yw'r fath beth yn bosib.Ond waeth bod rhywun wedi rhoi symbalau a thân gwyllt i'r dair yma wrth iddyn nhw lofruddio unrhyw arlliw o gynildeb a delweddau yn ei gerddoriaeth.
A dwi'n methu credu i'r gynulleidfa glapio'n wyllt wrth iddyn nhw adael y llwyfan yn dair gwên lipstig erchyll.
Dwi'n amlwg yn y lleiafrif llethol.
Yr hen lais cyfarwydd Fel petae'n ymtaeb i'r gyflafan hon o'i ganeuon, mae Meic yn dod nôl i'r ail ran gyda'r hen lais cyfarwydd, ac mae cip o'r angerdd, addfwynder nodau a'r hen hud yn gafael o'r diwedd.
Ond yn rhy hwyr. Mae'r cyngerdd ar ben a dwi'n gadael yn temlo'n wâg ac yn drist ac eisiau mwy o'r dewin.
Ond nos Wener, fe fydd Meic yn cynnal gig. Y fo, ei gitar, ambell offerynnwr arall, a llond tafarn o win a mwg a merched drwg .
Ac yma, nid mewn pafiliwn ffurfiol a goleuadau llwyfan stadiwm roc y bydd o ar ei orau.
|