

Bathiad babi bachog - cyfle i greu hysbyseb
Er bod Guinness yw Gwin y Gwan yn un o'r llinellau hysbysebu mwyaf cofiadwy yn yr iaith Gymraeg does neb i'w weld yn gwybod pwy yw awdur y geiriau bachog.
Fodd bynnag, os gall rhywun fathu dywediad yr un mor fachog a chofiadwy ar gyfer gwasanaeth awyrennau newydd BMIBaby o Gaerdydd bydd yn cael ei gydnabod a'i anfarwoli ym myd hysbysebu yn dilyn cystadleuaeth sy'n cael ei threfnu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
"Yr ydym yn trefnu cystadleuaeth i lunio llinell fachog o'r fath y gall y cwmni ei defnyddio i hysbysebu gwasanaeth newydd sy'n cychwyn o Gaerdydd fis Hydref nesaf," meddai John Walter Jones, pennaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yr oedd Mr Jones yn lansio'r gystadleuaeth ar Faes y Brifwyl ddydd Sadwrn a dywedodd y bydd gan rai sydd eisiau anfarwoli eu hunain ym myd hysbysebu tan ddiwedd Awst i anfon eu hymdrechion at y Bwrdd Iaith yng Nghaerdydd.
Ebostiwch 成人快手 Cymru'r Byd gyda'ch awgrymiadau ac fe'u trosglwyddwn i Fwrdd yr Iaith.e-bostiwch

|