Cyfle i roi eich syniadau ar wal
Mae'r geiriau ar y mur Y Prifardd Dic Jones yn agor Wal-do - wal cynhaeaf graffiti 成人快手 Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Wel," yn naturiol, oedd y geiriau cyntaf i'w sgrifennu ar wal graffiti y 成人快手 ar faes yr Eisteddfod yn Nhyddewi
Ac enw pwy ond Wil ellid ei gael wrth y fath gyfarchiad!
Ond y Prifardd Dic Jones a sgrifennodd y gair mewn gwirionedd achos ef oedd yn agor y wal glaerwen a osodwyd y tu allan i safle 成人快手 Cymru ar y maes ar gyfer graffitwyr o bob rhyw radd.
Ac ychwanegodd Dic Jones y geiriau mwy ystyrlawn, "Cofied y sawl sy'n bowio'n isel fod ei ben o a'i din ar yr un lefel."
Eglurodd Huw Llywelyn Davies a oedd yno i gynorthwyo i agor y wal, a chyflwyno dic Jones, i'r syniad ddod ar ôl gweld graffiti mwy creadigol na'r arfer ar wal ty bach tafarn y ship yn Nhrefin. Cwpled a gyhoeddai'r gwirionedd mawr,
"Un sy'n siwr o wlychu set Yw un tal yn y toilet."
Y gobaith yw, erbyn diwedd yr wythnos, y bydd campweithiau cyffelyb ar wal graffiti y 成人快手 hefyd - wal nad yw'n syndod iddi gael ei galw'n Wal-do o gofio'r ardal y mae'r Eisteddfod yn ymweld â hi eleni.
Y mae gwahoddiad i unrhyw un sydd ganddo rywbeth i'w ddweud alw heibio'r wal a rhoi eu sylwadau ar ddu a gwyn yn ystod yr wythnos.
|