成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Dod i brotestio, aros i ddysgu. Hanes Dysgwraig y Flwyddyn.

Alice Traille, enillydd tlws Dysgwr y Flwyddyn eleniDod i Gymru o Lundain i brotestio yn erbyn globaleiddio wnaeth Dysgwraig y Flwyddyn.

Alice James o Grymych enillyddodd wobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Mae Alice yn byw yng Nghrymych a dechreuodd ddysgu Cymraeg wedi iddi syrthio mewn cariad gyda Chymro ar ôl iddi ddod i Gymru fel protestwraig.

Meddai Alice, a gipiodd y teitl anrhydeddus hwn mewn noson arbennig i wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn, fod yr iaith wedi ei helpu i "osod gwreiddiau i lawr am y tro cyntaf."

Dywedodd beirniad y gystadleuaeth bod y safon wedi bod yn uchel iawn eleni.

Merched ar y blaen
Y merched oedd ar y blaen eleni gan mai pedair merch a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

Y tair arall oedd Judith Kauffman sydd yn wreiddiol o'r Almaen ond yn byw yn Rachub erbyn hyn, Siân Jenkins o Ddinas Powys a Liz Morgan o Lanbedr y Fro. Cafodd y tair eu cymeradwyo.

Ond Alice Traille a lwyddodd i Gyrraedd y brig a dywedodd wrth iddi ddathlu gyda'i theulu: "Rwy'n falch iawn o ennill y wobr a hefyd yn hapus fy mod yn gallu pasio'r Gymraeg ymlaen i fy mhlant fydd yn tyfu i fyny yn siarad yr iaith."

Roedd y gystadleuaeth yn cael ei noddi gan Western Power Distribution (WPD).

Rôl bwysig y dysgwyr
Yn cyflwyno'r wobr ar ran y cwmni roedd Huw Evans. Meddai: "Rydym yn falch iawn o'r cysylltiad gyda'r gystadleuaeth hon sy'n cydnabod y rôl bwysig mae dysgwyr yn chwarae wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg."

"Mae'r Gymraeg yn chwarae rhan ganolog mewn gweithgareddau yng Nghymru a rydym yn hapus o allu cefnogi.." ychwanegodd.

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yn flynyddol ers bron i ugain mlynedd.

Ei bwriad yw dangos llwyddiannau dysgwyr Cymraeg a phwysleisio i gynulleidfa ehangach yr holl fudd all ddod o ddysgu'r iaith.

Mae Alice yn dod o Lundain ac y mae ei theulu â'u gwreiddiau yn y Caribi.

Bellach mae hi'n briod â Rheinallt Selyf James, cynllunydd dodfren o Grymych, ac yn fam i efeilliaid.

Mae'n siarad Cymraeg gydag acen gref y Preseli."Sa'in fforso fe, 'na'r ffordd wi'n siarad," meddai hi.

Mae hi'n astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn gobeithio dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd.

Ond yn dilyn ei llwyddiant yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, dywedodd ei bod hi nawr yn ystyried dod yn athrawes Gymraeg.

Mewn cynhadledd i'r wasg fe'i holwyd am ei hagwedd tuag at y ffrae ynglyn â mewnfudwyr i ardaloedd Cyrmaeg.

Dywedodd ei bod hi'n ymwybodol bod mewnfudwyr yn gallu creu problemau.

"So'n nhw'n trio deall, ac mae hynny'n creu casineb.

"Erbyn hyn mae mwy o blant Saesneg yn nosbarth fy mab na phlant Cymraeg. Ac wi'n meddwl bod hwnna'n drist.

"Ond 'wi wedi gwneud fy rhan. 'Wi wedi cael efeilliad!" ychwanegodd.





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

成人快手 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy