

Blas ar geginau Patagonia
Mae llyfr ddeugain o brydau o Batagonia yn cael ei werthu ar Faes yr Eisteddfod i godi arian tuag at Gymdeithas Gymraeg yr Andes
Mae'r llyfr yn cynnwys ryseitiau wedi eu casglu gan Lizzie Jones de Lloyd a Joyce Powell o blith Archentiaid eraill sydd hefyd o dras Gymreig ac yn byw yn ardal Esquel a Threvelin..
Mae fersiwn Gymraeg a Sbaeneg o bob un o'r prydau sy'n amrywio o bwdinau i deisenau a bwydydd sawrus fel pasteiod traddodiadol yr Ariannin, Empanadas.
Pris y gyfrol yw £3 gyda'r arian yn mynd tuag at gwblhau canolfan Gymraeg y dechreuwyd ei hadeiladu yn 1999.
Mae'r llyfr yn cynnwys hefyd luniau yn ymwneud â'r gymdeithas leol.

|