

Camu mlaen gyda hanes celf
Cafodd y CD-ROM ddiweddaraf o hanes celfyddyd yng Nghymru ei chyhoeddi ar Faes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn.
Awdur Delweddau'r Genedl yn y gyfres uchelgeisiol Diwylliant Gweledol Cymru Gwasg Prifysgol Cymru ydi Peter Lord.
"Yn dilyn llwyddiant CD-ROM Y Gymru Ddiwydiannol, a lansiwyd y llynedd, maeDelweddau'r Genedl yn adnodd amlgyfrwng heb ei ail i unrhyw un sydd â diddordeb yn etifeddiaeth weledol unigryw Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf. Dyma arolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o ddiwylliant gweledol Cymru," meddai llefarydd ar ran y wasg.
Mae Delweddau'r Genedl yn cynnwys dros 1,500 o ddelweddau o safon uchel - mwy na dwywaith y nifer o luniau sydd yn y llyfr - ac mae fersiwn Gymraeg a Saesneg.
" Mae'r CD hefyd yn rhoi cyfle ichi storio gwybodaeth ychwanegol, nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr. Mae'r rhain yn cynnwys cyfweliadau trylwyr, sy'n codi cwestiynau ynglyn â thraddodiadau gweledol y gorffennol a'u lle yng Nghymru heddiw, ynghyd â safbwyntiau artistiaid, gweithwyr proffesiynol ac athrawon yn y celfyddydau," ychwanegwyd.
Mae yna hefyd fywgraffiadau o artistiaid sydd wedi gweithio yng Nghymru.
Yr hanesydd celf, Peter Lord, yw arweinydd prosiect Diwylliant Gweledol Cymru yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae'n awdur nifer o lyfrau am gelfyddyd ac yn feirniad blaenllaw.
Pris y CD-ROM yw £30.00.

|