成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfor yr Urdd - Caerdydd 2002

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Eisteddfod 2002
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


O'r Maes
Adolygiad: Noson fythgofiadwy

Big Leaves oedd yn cloi'r gig ym Maes B nos SadwrnMae pawb yn gwybod mai noson olaf Maes B yw'r un fythgofiadwy bob amser ac nid oedd Nos Sadwrn Maes B Tyddewi yn eithriad.

Roedd y tocynnau wedi bod yn gwerthu yn gyflym ers y Nos Iau ac erbyn 5 o'r gloch Nos Sadwrn roedd y tocynnau yn brin.

Ond doedd dim syndod bod y tocynnau yn gwerthu yn gyflym gyda'r noson yn llawn o fandiau poblogaidd: Mwsog, Carlotta, Bysedd Melys, Alcatraz, Gogz, Maharishi, Zabrinski a Big Leaves. Roedd £8 am docyn yn bris rhad iawn i'w dalu am noson a fyddai'n llawn talent Cymraeg.

Neb yno i glywed Carlotta
Fel gweddill yr wythnos, distaw iawn oedd y gig ar y cychwyn gyda phrin neb yno i glywed Mwsog a Carlotta. Mae Carlotta yn un o fy hoff fandiau gan fod llais Elin Fflur mor wych ac roedd hi'n bechod mawr iawn nad oedd neb yno i glywed eu caneuon ardderchog ac na chafodd y band fawr o gefnogaeth.

Rhoddodd Bysedd Melys ac Alcatraz hefyd berfformiad digon boddhaol ond unwaith eto, nid oedd torf yno i'w hannog nhw.

Erbyn i Gogz chwarae roedd pawb oedd wedi bod yn Solfach yn yfed ar ddechrau'r noson wedi cyrraedd ac roedd perfformiad Gogz yn anhygoel. Chwaraeon nhw lawer o'u caneuon poblogaidd ac roedd pawb yn canu nerth eu pennau.

Y nesaf ar y llwyfan mawr oedd Maharishi. Mae Maharishi yn un o brif grwpiau Cymru ac roedden nhw'n hynod boblogaidd. Roedd pawb yn canu a dawnsio yn wyllt i'w cerddoriaeth a chlywsom ambell gân o'r albwm newydd sy'n llond ceg Keep Your Ear To The Ground Or You Won't Hear The Horses.

Ffans Maharishi yn siomedig
Er gwaetha' eu perfformiad bywiog roedd pawb yn hynod siomedig na wnaeth Maharishi chwarae'r gân boblogaidd Ty ar y Mynydd, efallai bod Maharishi eisiau chwarae mwy o ganeuon newydd, ond dylen nhw hefyd gofio cadw eu ffans yn hapus!

Chwaraeodd Zabrinski yn dda iawn, ond yn anffodus, roedden nhw yn chwarae rhwng dau fand gwych sef Maharishi a Big Leaves.

Roedd pawb wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar drwy'r noson am berfformiad Big Leaves, ac roedd o'n werth yr holl ddisgwyl. Cododd y to wrth i Big Leaves chwarae gyda digon o egni a'r dorf yn mynd yn wyllt yn canu, dawnsio a gweiddi nerth eu pennau.

Cymysgedd o'r hen a'r newydd
Chwaraeodd Big Leaves gymysgedd o ganeuon hen a newydd oddi ar yr albwm Pwy Sy'n Galw a'r EP diweddar Siglo, hefyd roedd ambell gân newydd sbon.

Chwaraewyd y clasur o gân Belinda heb anghofio'r gân ddaeth yn gyntaf yng nghant uchaf Cymru eleni, Seithennyn. Wrth i Seithennyn chwarae roedd y dorf yn canu fel côr gyda phawb yn gwybod y gân air am air.

Ar ôl i Big Leaves chwarae dechreuodd pawb weiddi MWY ond ni ddychwelodd Big Leaves, efallai fod hyn yn beth call gan eu bod wedi gadael ar nodyn uchel a phoblogaidd dros ben.

Heb unrhyw amheuaeth sêr nos Sadwrn a'r wythnos gyfan oedd Big Leaves. Roedd eu perfformiad yn un bywiog, gwyllt a bythgofiadwy, does neb i'w curo.


Adolygiad gan Sioned Gwen Davies





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Cefndir
Wyddoch chi hyn?

Comedi mewn dosbarth comedi

Yr Archdderwydd newydd

'Lle i enaid gael llonydd'

Araith gyntaf yr Archdderwydd newydd

Heulwen i'r Cymry tramor

'Cadeirydd na fu ei debyg!'

Coron yn deyrnged i fywyd Dewi

Down belows, wês-wês a'r pentigily!

Atgofion Penfro

成人快手 Cymru yn yr Eisteddfod

Blas Gwyddelig i ddarlithoedd

O'r Maes
Cadeirio Pawb yn y Pafiliwn

Medal i Angharad

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mawrth

Steddfod Gwilym Owen - dydd Mercher

Cysylltiadau eraill
Safle Celf a Chrefft Eisteddfod 2002



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy