Roedd pob rhedwr yn cael ei noddi er mwyn gallu casglu arian ar gyfer amrywiol elusennau. Dyma'r hanner marathon cyntaf i Miss Edwards ei rhedeg ac fe lwyddodd i gyflawnu'r gamp mewn 1 awr 57 munud. "Dwi'n wirioneddol hapus gyda'r amser achos roedddwn i eisiau torri record dwy awr, ond doeddwn i ddim yn credu y byddai'n bosibl." Rhedodd Miss Edwrads dros elusen Bobath. Elusen yw hon sy'n rhoi therapi i blant 芒 Cerebral Palsy. Mae'r salwch yma yn effeithio ar lawer o agweddau o'r corff e.e symudiad corfforol, naill ai rhan uchaf neu rhan isaf y corff. Mae Miss Edwards yn amcangyfrif iddi gasglu 拢250 wrth redeg y marathon ac mae cyfle yn yr ysgol i roi tuag at yr elusen, felly gobeithia bydd y swm yn cynyddu. "Roedd y diwrnod yn gr锚t ac roeddwn yn falch fy mod yn gallu gwenud rhywbeth dros eraill." Dylem i gyd ddilyn esiampl Miss Edwards trwy geisio helpu eraill ac mae'n bwysig i ni hefyd werthfawrogi ein hiechyd heb ei gymryd yn ganiataol.
|