Cymaint oedd y diddordeb fel y bu rhaid cynnal y clyweliadau dros dri diwrnod. Roedd 95 o ddawnswyr gobeithiol wedi cael diwrnod o weithdy gan Mrs Elin Griffith. Roedd y gystadleuaeth yn fawr gyda dim ond 20 lwcus yn cael eu dewis. Roedd eraill 芒'u bryd ar fod yn y corws gyda chriw sylweddol eisiau rhannau actio.Cyfaddefodd y t卯m cynhyrchu sef Miss Manon Roberts, Miss Rhian James, Mr Richard Davies a Mrs Elin Griffith ei bod wedi bod yn waith anodd i ddidoli a chastio.
Yn 么l Miss Manon Roberts "Mae llawer o resymau pam rydym yn gwneud y fiwsical Branwen. Un peth yw rhoi profiad theatrig i'r disgyblion, profiad newydd i lawer disgybl. Gobaith arall yw cryfhau y syniad o berthyn sydd yn yr ysgol. Dw i'n gobeithio bydd y sioe yn rhoi pleser i bawb ac yn tynnu rhieni, pobl sydd 芒 chysylltiad 芒'r ysgol a'r gymuned i mewn i'r theatr."
"Wrth gwrs dw i'n gobeithio dod 芒 naws fodern i hen chwedl Gymreig".
Branwen: dewis diddorol
Diddorol yw dewis Gwynllyw o fiwsical. Tuedd sawl ysgol dros y blynyddoedd diwethaf yw dewis gweithiau Americanaidd a Seisnig eu naws. Mae hyn wedi peri i sawl un holi eu gwerth haddysgol. Gobaith y t卯m cynhyrchu yw bod rhywfaint o etifeddiaeth llenyddol Cymru yn cael ei gyflwyno'n fyw i'w disgyblion.
"Mae cynhyrchu miwsical yn fodd i addysgu plant," meddai Miss Roberts, "syniad gwirion yw credu nad yw pobl ifanc yn mynd i fwynhau perfformio testunau Cymreig, yn chwedl neu'n hanesyn".
Gydag agwedd fel hyn yn cael ei leisio, nid yw'n syndod mai Cymraeg yw'r iaith a glywir fel arfer ar goridorau Gwynllyw.
Drama gerdd yw hon gan Emyr Edwards. Y mae'n weledol gyffrous yn 么l y t卯m cynhyrchu, a digon o ganu.
Gofidion i'r gynhyrchwraig?
A pha bethau sy'n gofidio'r gynhyrchwraig? Dim medde hi. Mae meddwl am ofnau yn agwedd negyddol i'r athrawes gerdd hon. Ond ychwanegodd gan chwerthin "Dw i'n gobeithio na fydd Mr Richard Davies yn mynd dros ben llestri wrth gyfarwyddo'r golygfeydd ymladd... mae dynion ac enwedig athrawon drama yn medru cael eu cynhyrfu gan elfennau felly."
Wrth gwrs nid yw llwyfannu miwsical yn beth hawdd. Mae amserlen ysgol fel petae'n llawnach y dyddiau yma gydag arholiadau allanol yn britho'r tri thymor.
Prinder lle a gofod yw un rhwystr ymarferol yng Ngwynllyw, ac mae athrawon yn gyndyn i adael ymarferion darfu ar eu gwersi, rhag ofn byddai cynhyrchiad o'r fath yn amharu ar y canlyniadau. Mae cyllid yn elfen arall.
Cefndir y stori
Llwyddodd Bendigeidfran gael ei fyddin ar draws yr afon wrth fod yn bont. Efallai bydd angen mwy na phont deled Ionawr a Chwefror gyda'r eira'n disgyn a'r bysiau yn gwrthod cludo'r disgyblion i Bontyp诺l. Fodd bynnag, pob hwyl i'r perfformwyr a'u hyfforddwyr.
Merch o flwyddyn 10 a fydd yn chwarae Branwen sef Cara Harris. G诺r ifanc tal o Flwyddyn 13 yw Bendigeidfran sef Matthew Jones. Rhodri Morgan o Flwyddyn 12 fydd Matholwch gyda James Conelly, Michael Fox a Llyr Randles yn portreadu Manawydan, Efnisien a Nisien.
Perfformiadau
Perfformir y sioe yn Theatr y Congress Cwmbran ym mis Chwefror am 7.00 o'r 13eg ymlaen sef Nos Lun , Mawrth a Mercher, gyda pherfformiad prynhawn ar ddydd Mawrth 14eg am 2.00.
Gan: T卯m Golygyddol Tafod Torfaen