Yn ddiweddar, mae adnoddau chwaraeon Casnewydd wedi cael eu hadnewyddu, ac erbyn heddiw mae gan Casnewydd yr adnoddau gorau trwy Gymru. Fe adeiladwyd Felodr么m newydd sbon ar safle sydd yn cynnwys pyllau nofio a chyrtiau squash a thennis. Yng Nghwmbran, mae addewid am adnoddau newydd gan y cyngor lleol, ac o gwmpas Gwent yn gyfan gwbwl mae gwaith yn mynd yn ei flaen i adnewyddu cyflwr adnoddau Chwaraeon yr ardal. Problem pwysau
Ond, er gwaetha hyn, yng Ngwent mae gennym ni dal i fod un o'r ffigyrau uchaf o blant dros bwysau ym Mhrydain. Pam? Efallai oherwydd diffyg bwyd iach mewn ysgolion, ond fel y gwelwn mae'r wasg ac ambell i gogydd enwog wedi gwneud helynt o'r sefyllfa yna. Felly oes unrhyw esgus gan bobl ifainc De Cymru am or-fwyta? Yn fy marn i, na, does dim. Mae arian mawr wedi cael ei wario ar adnoddau Chwaraeon newydd ac mae hysbysebion bwydydd afiach wedi cael eu gwahardd. Mae pwysau mawr ar rieni i anfon eu plant allan i'r gwasanaethau chwaraeon newydd sydd wedi cael eu hagor, ac i wneud yn si诺r fod eu plant yn bwyta'n iach. Dim ond amser a ddengys os bydd sefyllfa iechyd de Cymru a Thorfaen yn gwella. Gan: Sam Willis
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |