成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pamffled gig The Thrills Adolygiad o gig The Thrills
Ar y 15fed o fis Mawrth, gwelais fand neis yn Undeb y Myfyrwyr yng Nghaerdydd. Cyn y gig yma, nid oedd barn benodol gennyf am The Thrills ac nid oeddwn ar fy mhen fy hun.
Yr oedd y Neuadd Fawr yn llawn gyda dwy fath o bobl: ffans 'die hard' a ffyddlon a phobl fel fi, pobl a oedd yn mynd jyst am noson o gerddoriaeth neis.

Yr oedd llawer o egni gan y pumawd o Ddulyn efo'r canwr Conor Deasy yn symud o gwmpas y llwyfan yn gyflym ac yn chwifo stand y meicroff么n i annog brwdfrydedd y gynulleidfa. Amgylchwyd ei ffurf denau gan sioe oleuni argraffiadol o liwgar.

Ond nid oedd y gig yn gyffredinol yn arbennig o fywiog oherwydd natur harmonig a melodig y mwyafrif o'u caneuon, ond nid yw hynny yn beth drwg.

Tocyn y gigI fi, fel rhywun sy'n gwerthfawrogi eu cerddoriaeth ar lefel eitha syml, yr oedd y casgliad o ganeuon a gynygiwyd gan y gig braidd yn berffaith.

Yr oedd perfformiadau o'u caneuon poblogaidd megis 'Big Sur', 'Santa Cruz (You're Not That Far)' a 'Whatever Happened to Corey Haim?' a chawsom gyfle i glywed eu sengl newydd 'The Irish Keep Gatecrashing' sydd ar gael i brynu ar hyn o bryd, efo'u fersiwn eu hunain o 'Viva Las Vegas' ar ochr B y ddisg.

Y mae'r sengl newydd yn dod o'u ail albwm 'Let's Bottle Bohemia' sy'n brofiad mwy tywyll na'u halbwm cyntaf, o ran s诺n a lyrics y caneuon.

Fel y dywedwyd, dw i byth wedi bod yn ffan mawr o The Thrills, ond rhaid cyfaddef fy mod i wedi mwynhau'r gig yma ac os bydd y Gwyddel eisiau 'gatecrash-o' yr undeb yng Nghaerdydd unrhyw bryd yn y dyfodol agos, mae'n hollol iawn 'da fi!

Gan: Louise Andrewartha


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy