成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gareth Williams a cherflun o Caradog yn Aberd芒r Cymru Gwlad y G芒n
Mae'r Athro Gareth Williams o Brifysgol Morgannwg yn edrych yn 么l ar hanes canu corawl yng Nghymru mewn cyfres newydd ar S4C.
Bydd y gyfres newydd yn archwilio un o ystrydebau mwyaf cyfarwydd y genedl - y syniad o Gymru fel 'gwlad y g芒n'.

Yn Canu'r Cymoedd, bydd yr Athro Gareth Williams yn honni bod y ddelwedd hon o Gymru wedi dod i'r fei gyntaf oll yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod y Cymry yn gysylltiedig 芒 cherddoriaeth ymhell cyn hynny.

"Mae'r ddelwedd hon o "Gymru, Gwlad y G芒n" yn deillio o'r traddodiad corawl anrhydeddus a dyfodd yn ardaloedd diwydiannol y De yn y 1800au," eglura'r Athro Williams. "Yn wir, y tro cyntaf i 'd卯m' o Gymru wynebu Lloegr oedd mewn cystadleuaeth gorawl fawreddog yn y Palas Crisial yn Llundain ym 1873."

Yn yr ornest hanesyddol hon roedd yn rhaid i'r 'C么r Mawr' brofi ei allu yn erbyn un o brif gorau Llundain. O dan arweiniad yr enwog Griffith Rhys Jones, bu'r Cymry'n fuddugoliaethus. "Roedd bri Jones gymaint nes ei fod yn cael ei adnabod gan ei ffugenw yn unig - Caradog," meddai Gareth.

Gareth Williams a'r cerflun"Ar draws Cymru, mae 'na gerfluniau o gadfridogion, gwleidyddion ac enwogion y meysydd chwarae, ond does ond un cerflun o arweinydd c么r, sef y cerflun godidog o Caradog yn chwifio'i faton, sy'n sefyll yn sgw芒r ei dref enedigol, Aberd芒r."

Mae'r Athro Williams yn egluro paham fod t诺f y traddodiad newydd hwn wedi bod mor gryf yn y de.

"Bu i ddiwydiannau De Cymru dyfu'n gyflym ac fe ymgartrefodd niferoedd uchel o Gymry yn y trefi am y tro cyntaf mewn hanes. Gyda'r t诺f mewn poblogaeth a'r gwelliannau mewn trafnidiaeth, roedd yn bosibl i gorau mawr ddod at ei gilydd i ymarfer a pherfformio - yn aml yn y capeli newydd oedd yn cael eu hagor dros y wlad. Fe arweiniodd hyn at draddodiad y Corau Meibion Cymraeg," eglura Gareth, sydd yn aelod o G么r Meibion Pendyrus yn y Rhondda.

C么r yn y cymoedd"I fi, mae s诺n y Corau Meibion yn rhywbeth arbennig. Mae'n gadarn, cyffrous ac yn gynnes hefyd. I nifer fawr o bobl, dyma sain sy'n nodweddiadol ohonom ni'r Cymry."

Fe wnaeth y corau ddenu cefnogaeth frwd. Ym 1893 fe aeth rhyw 15,000 o bobl i weld Cymru yn maeddu Lloegr mewn g锚m rygbi ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, ond yn y mis Awst, roedd pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd dan ei sang gyda 20,000 o bobl yn gwylio'r brif gystadleuaeth gorawl.

Bydd Canu'r Cymoedd hefyd yn edrych ar ochr dywyllach cystadlaethau corawl oes Fictoria. Roedd yr awydd i ennill mor gryf nes i'r corau geisio pob math o driciau a chynllwynio i danseilio'u gwrthwynebwyr. Roedd y cystadlaethau mawr yn denu llu o gamblwyr, a phan nad oedd y gwylwyr yn hapus gyda'r dyfarniad, roedd y cefnogwyr anfodlon weithiau'n ymladd, a'r beirniaid yn gorfod ffoi am eu bywydau!

Canu'r Cymoedd. Yn dechrau ar Ddydd Calan, 8.45pm, S4C, gydag isdeitlau Saesneg.
Cynhyrchiad Boomerang i S4C mewn cydweithrediad ag ITV Wales.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人快手 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy