1936
Penyberth a'r ysgol fomio 'Y Tri' yn cynnau'r Tân yn Llyn wrth losgi'r Ysgol Fomio Yn 1935 fe benderfynodd y llywodraeth sefydlu ysgol fomio i'r Awyrlu ym Mhenyberth ym Mhen Llyn. Bu gwrthwynebiad eang yng Nghymru, ond fe anwybyddwyd hyn, ac yn 1936, chwalwyd y ffermdy hanesyddol wrth i'r gwath adeiladu ddechrau. Ond 'roedd tri chenedlaetholwr amlwg yn barod i wneud mwy na llythyra a gosod posteri dros yr achos. Ar yr 8fed o Fedi, aeth y darlithydd Saunders Lewis, yr athro D J Williams a'r gweinidog Lewis Valentine i'r safle liw nos a rhoi peth o'r deunydd adeiladu ar dân. Aethant at yr awdurdodau wedyn i gyfaddef i'w gweithred o brotest symbolaidd. Maes o law, wedi dau achos llys, fe garcharwyd 'Y Tri' fel y cawsant eu hadnabod wedyn. Lewis Valentine sy'n cofio'r noson ac yn adrodd yr hanes.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Cloddio'r Aur - Penyberth darlledwyd yn gyntaf 14/05/1990
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|