1955, 1967, 1970
Cymdeithas yr Iaith I'r gad i achub y Gymraeg Ym mis Chwefror 1962 fe dynnodd Saunders Lewis sylw'r genedl at statws isel yr iaith Gymraeg yn ei ddarlith radio enwog "Tynged yr Iaith". Wedi'r ddarlith, ar Awst 4, ac yn ystod ysgol haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais, fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Digwyddodd y brotest gyntaf ar bont Trefechan Aberystwyth ar Chwefror 23, 1963. Ers hynny, fe fu yna lawer o brotestiadau brwd ledled Cymru. Carcharwyd nifer o aelodau am eu gweithgareddau megis meddiannu swyddfeydd a phaentio arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg. Yn sgîl yr ymgyrchu dadleuol hwn, newidiwyd sawl polisi at yr iaith Gymraeg.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Tynged yr Iaith darlledwyd yn gyntaf 15/02/1987
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|